Castell Gwrych
Castell ffug ac ystâd ym Mwrdeisdref Sirol Conwy, ger Abergele yw Castell Gwrych ( HanesHanes cynnarFe'i codwyd gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788-1861) i gofio am deulu'r 'Llwydiaid' ar ochr ei fam. Er mwyn ei godi dymchwelwyd plasdy o'r enw 'Y Fron’ a oedd ers 1810 wedi mynd a'i ben iddo. Erbyn i Lloyd briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch Beauchamp) yn 1825 roedd y tŷ newydd wedi ei godi a'i orffen. Unodd nifer o gynllunwyr a phensaeri yn y gwaith o'i gynllunio, gan gynnwys Charles Augustus Busby a Thomas Rickman ac yn 1840s cododd Henry Kennedy adain newydd. Pan fu farw Lloyd, daeth Robert Bamford-Hesketh a'i wraig Ellen Jones-Bateman yn berchnogion. ![]() Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystad 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng ngogledd Cymru. Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.[1] Roedd y Stad yn darparu cyfleuon a gwasanaeth (swyddogol neu answyddogol) i aelodau dosbarth canol ac uwch y fro. Mae llawer o son am gipar Stad y Gwrych yn nyddiadur John (neu Lorrimer - nid yw'n amlwg) Thomas gan i'r dyddiadurwr o naturiaethwr ddibynnu'n helaeth ar ei sgiliau a'i wybodaeth (a gwn!). Ni chawsom wybod beth oedd enw "the keeper" chwaith (dosbarth îs siwr o fod). Dyma enghraifft o'r dyddiadur[2] yn cofnodi, gyda chymorth y cipar, adar sydd, rhai ohonynt, wedi hen ddiflannu:
1940au hyd y 1960au![]() Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd gan y Llywodraeth i lochesu 200 o aelodau Mudiad Seion yr Iddewon (Bnei Akiva).[3] Wedi'r rhyfel, torrwyd y cysylltiad gyda theulu Dundonald ac am ugain mlynedd roedd yn agored i'r cyhoedd. Ar yr adeg yma, fe'i galwyd yn "The Showpiece of Wales" a thyrrai ymwelwyr yno i'w weld.[4] Fe'i defnyddiwyd hefyd fel man hyfforddi y bocsiwr Randolph Turpin yn y 1950au cynnar. Yn y 1960au cynnar, fe'i defnyddiwyd yn achlysurol gan fotobeicwyr 'Dragon Rally'. Dirywiad ac adferiadCeuwyd ei ddrysau i'r cyhoedd yn 1985, a chychwynodd cyfnod o ddirywiad i adeiladwaith y castell.[5] Fe'i prynwyd yn 1989 gan Nick Tavaglione, dyn busnes Americanaidd, am £750,000.[4] Ond ni chychwynwyd adfer yr adeilad ac o ganlyniad anrhaethwyd y lle gan fandaliaid a'r tywydd. Fe'i defnyddiwyd yn 1996 fel cefndir i'r ffilm Prince Valiant, a oedd yn serennu Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl.[6] Dechreuodd bachgen ifanc 12 oed ymgyrchu dros gadwraeth y castell, sef Mark Baker.[7] Ffurfiodd ymddiriedolaeth i warchod ac adfer y castell, a gorfodwyd Bwrdeisdref Sirol Conwy i roi 'gorchymyn pryniant gorfodol' ar y lle. Gorfodwyd y perchennog Americanaidd i'w werthu ym Mawrth 2006 a phrynwyd y castell gan 'City Services Ltd' yn Ionawr 2007 am £850,000 a gwariwyd hanner miliwn ar y gwaith o'i adfer, ond o fewn dim, aeth yr hwch drwy'r siop.[6][8] Yn Nhachwedd 2020, defnyddiwyd y castell fel lleoliad i'r gyfres Prydeinig I'm a Celebrity...Get Me Out of Here! am nad oedd y gyfres yn gallu defnyddio eu lleoliad arferol yn Awstralia oherwydd Pandemig COVID-19. Roedd yr enwogion yn byw yn y castell ac fe addaswyd nifer o nodweddion y gyfres ar gyfer y lleoliad.[9] Roedd hyn yn cynnwys defnyddio arwyddion Cymraeg o fewn y castell a'r cyflwynwyr Ant a Dec yn defnyddio ambell air o Gymraeg wrth gyflwyno. Perchennog y siop yn y gyfres oedd 'Cledwyn' yn cymryd lle 'Kiosk Kev' o Awstralia.[10] Cyfeiriadau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia