Llewelyn Kenrick
Cyfreithiwr a phêl-droediwr oedd Samuel Llewelyn Kenrick (1847 – 29 Mai 1933). Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru a hefyd yn gyfrifol am drefnu gêm bêl-droed ryngwladol cyntaf Cymru a hynny yn erbyn Yr Alban yn 1876. BywydGaned Llewelyn Kenrick i deulu o ddiwydianwyr Wynn Hall, Rhiwabon a'i dad, John Kenrick, sefydlodd Pwll Glo Wynn Hall ym Mhenycae[1]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, Sir Ddinbych. Daeth yn gyfreithiwr yn Rhiwabon, yn glerc i ynadon heddwch Rhiwabon (1896-1933), a bu'n grwner adran ddwyreiniol Sir Ddinbych o 1906 hyd ei farwolaeth. Ym 1909 daeth yn briod â Lillian Maud, merch y Parchedig A. L. Taylor, prifathro Ysgol Ramadeg Rhiwabon[2]. Bu farw ar 29 Mai 1933, a cafodd ei gladdu yn Rhiwabon. Chwaraeodd ei frawd yng nghyfraith, Charles Taylor, rygbi dros Gymru gan ennill naw cap rhwng 1884 a 1887. Cafodd Taylor ei ladd ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[3][4] Chwaraewr Pêl-droedShropshire WanderersRoedd Kenrick yn aelod o dîm Shropshire Wanderers chwaraeodd yn erbyn Plasmadoc ym 1872 ac o ganlyniad cafodd ei ddylanwadu i geisio sefydlu tîm pêl-droed o safon yn ei dref enedigol, ac am gyfnod roedd yn chwarae i dîm y Derwyddon ac i Shropshire Wanderers[5]. Roedd yn aelod o dîm Shropshire Wanderers gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875 cyn colli yn erbyn yr Old Etonians[6] Y DerwyddonYm 1872 roedd yn allweddol wrth uno tri o glybiau pentref Rhiwabon sef Plasmadoc, Ruabon Rovers a Ruabon Volunteers er mwyn creu Y Derwyddon[7]. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn trefnu gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros Gymru[8]. CymruRoedd yn gapten ar dîm Cymru yn eu gêm ryngwladol gyntaf erioed yn erbyn yr Alban yn 1876 ac aeth ymlaen i ennill pum cap, yr olaf yn dod ym muddugoliaeth gyntaf y Cymry a hynny yn erbyn Lloegr yn Blackburn yn 1881[6][9]. Gweinyddwr Pêl-droedCymdeithas Bêl-droed CymruYm mis Ionawr 1876 gwelodd Kenrick hysbyseb yng nghylchgrawn The Field, yn galw am dîm Cymreig i chwarae gêm bêl-droed yn erbyn Yr Alban neu Iwerddon o dan reolau rygbi, ond roedd Kenrick yn benderfynol o greu tîm yn chwarae rheolau pêl-droed a hysbysebodd am chwaraewyr fyddai â diddordeb chwarae i gysylltu ag ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria[5][10]. Galwodd Kenrick gyfarfod ar 26 Ionawr 1876 er mwyn sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cambria a threfnu gemau prawf ar gyfer dewis tîm i herio'r Alban ond erbyn yr ail gyfarfod ar 2 Chwefror 1876 yng ngwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam roedd wedi newid yr enw i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfarfod yma sydd yn cael ei ystyried gan y Gymdeithas fel y cyfarfod lle'i ffurfiwyd[11]. Cafwyd cyfarfod pellach yn y Wynnstay Arms, Rhiwabon ym mis Mai 1876 er mwyn ffurioli'r Gymdeithas a sefydlu'r pwyllgor cyntaf gyda Kenrick yn cael ei ethol yn ysgrifennydd a'r Aelod Seneddol lleol, Syr Williams Watkins Wynn yn cael ei benodi'n Lywydd[5]. Cwpan CymruYn dilyn ei lwyddiant gyda Shropshire Wanderers yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr ym 1875[6], cynnigiodd Kenrick fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sefydlu cystadleuaeth tebyg ar gyfer clybiau Cymru[5]. Cafwyd 19 o glybiau yn y gystadleuaeth gyntaf ym 1877-78 gyda Wrecsam yn trechu Kenrick a'r Derwyddon 1-0 yn y rownd derfynol ar 30 Mawrth 1878[12][13]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia