Llên yr EidalGosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Lenyddol Nobel gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997). Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico. Y DadeniYmgododd nodweddion cynharaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal yn y 13g a 14g. Nodweddir gan yr adferiad o ddyneiddiaeth a dylanwadau eraill llên glasurol Roeg a Lladin. Gosododd Dante, Petrarch a Boccaccio sail i ysblander lenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenaf y ganrif honno oedd Pietro Bembo, meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd ac yn anad dim yn feirniad chwaeth y llên Eidaleg, a lewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop. Llenyddiaeth gynnarDolce stil nuovoYn Fflorens y 13g fe ddatblygodd ffurf ar y delyneg ramant o'r enw dolce stil nuovo ("pêr arddull newydd"). Prif gyfansoddwyr y mudiad hwn oedd Guido Guinizelli, Guido Cavalcanti, a Cino da Pistoia. Prif nodweddion y dolce stil nuovo yw:
Dwyfol Gân DanteEnghraifft glasurol o ddyneiddiwr oedd Dante Alighieri (1265-1321). Ysgrifennodd yn Lladin ac hefyd llafariaith Fflorens, gan roi i iaith y werin fynegiant llenyddol a arweiniodd at ddatblygiad yr iaith Eidaleg. Adeg y trawsnewid Lladin gwerinol i'r Dysganeg, ysgrifennodd amddiffynniad o'r iaith lafar yn Lladin, De vulgari eloquentia (tua 1304). Dilynodd ei bregeth ei hun, gan arloesi safonau'r iaith Romáwns a elwir heddiw yn Eidaleg: La Vita Nuova (tua 1293) a La Commedia (1320).
Nodir La Commedia am egni ei mynegiant, amrywiaeth ei emosiynoldeb, a gwreiddioldeb ei delweddaeth. Thema ganolog y gerdd yw tynged drosgynnol y ddynolryw a myfyrio ar yr enaid, a welir trwy fydolwg sy'n cyfuno'r Gristionogaeth a diwylliant y gwareiddiad Groeg-Rufeinig. Dyma'r soned Tanto gentile e tanto onesto pare o La Vita Nuova, enghraifft o ganu serch Dante a rhagesiampl glir o gymeriadaeth angylaidd y fenyw yn ystod y Dadeni:
Petrarch a'i CanzoniereBrodor o Arezzo oedd Francesco Petrarca neu Petrarch (1304-1374), ac efe yw cynddelw'r dyneiddiwr cynnar y Dadeni. Awdur toreithiog ydoedd yn Lladin ac Eidaleg, yn feistr sawl mesur ac yn ymdrin ag amryw bwnc a thema. Traddodai hanes y Rhyfeloedd Pwnig yn Lladin yn ei arwrgerdd anorffen Africa. Y delyneg oedd ei brif rodd i'r Dadeni, a gosododd ei gampwaith Il Canzoniere (1350) esiampl i feirdd yr Eidal a thu hwnt. Cyfansoddodd Il Canzoniere a cherddi eraill, megis yr aralleg Trionfi, yn Eidaleg y werin.
Dyma soned sy'n nodweddiadol o delyneg Petrarch:
Boccaccio a'i DecameroneGiovanni Boccaccio (1313-1375) yn ôl y traddodiad yw dyfeisiwr y novella, stori fer hir ar bwnc serch gan amlaf. Casgliad o gant o'r fath straeon yw'r Decamerone, sy'n trafod themâu cariad, deallusrwydd, a ffawd. Byd y werin yw'r golygfeydd ac felly ceir straeon masweddus, y digrif a'r dwys, sy'n adlewyrchu'r newidiadau cymdeithasol yn Fflorens ar y pryd. Yn aml mae'r gwragedd yn y Decamerone yn twyllo'u gwŷr. Dodir penillion o ganeuon gwerin Eidaleg mewn testun sawl stori. Daw pwysigrwydd y Decamerone yn bennaf o'i rhyddiaith gain a chraff, a osododd patrwm i lenorion hwyrach y Dadeni i'w efelychu. Yn ogystal, y Decamerone oedd cynffurf y nofel lys, cyfrwng y novellieri Eidaleg, er enghraifft Mateo Bandello a Giraldi Cinthio, ac hefyd Sbaenwyr megis Juan de Timoneda (El Patrañuelo) a Cervantes (Novelas ejemplares). Yr 16eg ganrifDante, Petrarch a Boccaccio oedd y triwyr penigamp a sbardunodd ffyniant llenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenllaw y ganrif hon oedd Pietro Bembo, cyfansoddwr yn null Petrarch ond yn anad dim yn feirniad o fri ac yn safonwr y llên genedlaethol.
Pwrpas rhyddiaith addysgol y Dadeni oedd i ddisgrifio a chyfarwyddo normau newydd ysbryd yr oes. Ymhlith y clasuron mae Il Cortegiano gan Baldassare Castiglione, llyfr moes y llys a'i ddefod, ac Il Principe gan Niccolò Machiavelli, traethawd ar bwnc damcaniaeth wleidyddol. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia