Dario Fo
Llenor, canwr, ymgyrchydd gwleidyddol a dramodydd o'r Eidal oedd Dario Fo (24 Mawrth 1926 – 13 Hydref 2016), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1997.[1] Ymhlith ei ddramâu enwocaf mae: Non tutti i ladri vengono a nuocere (The Virtuous Burglar), Gli arcangeli non giocano al flipper (Dydy Archangylion Ddim Yn Chwarae Pinball), Mistero Buffo, Morte accidentale di un anarchico (Accidental Death of an Anarchist), Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!), Clacson, trombette e pernacchi (Trumpets and Raspberries), Coppia aperta, quasi spalancata (Elizabeth: Almost by Chance a Woman) ac Il Papa e la strega (Y Pab a'r Wrach). "Gellir dadlau mai ef yw'r dramodydd cyfoes mwyaf poblogaidd drwy Ewrop,"[2] ac mae llawer o'i waith yn dibynnu ar ddawn yr actor i lenwi'r bylchau ei hun ac ymateb byw[2][3][3] a'r math o arddull Eidalaidd a elwir yn commedia dell'arte.[1] Darlledwyd cyfres deledu o'i waith, Il teatro di Dario Fo, ar Sianel 2 yn yr Eidal. Roedd un o'r dramâu yn y gyfres, Parliamo di donne, (a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y gyfres ac ail-ryddhawyd yn rhyngwladol fel Let's Talk About Women) yn ymdrin â themâu cyfoes megis ysgariad, rhyw a'r "Teulu Sanctaidd".[4] Yn y 2010au symbylodd y mudiad gwrth-awdurdod "Pum Seren".[5][5] a chyfeiriwyd ato gan eu harweinwyr fel "Y Meistr".[6] Mae ei waith pièce célèbre, Mistero Buffo wedi'i berfformio ar hyd a lled Ewrop, Canada, ac America Ladin dros 30 mlynedd yn cael ei gydnabod fel un o'r gweithiau mwya dadleuol a phoblogaidd erioed. Fe'i disgrifiwyd gan y Fatican fel "y cablu mwyaf yn hanes y teledu".[1] Mae teitl Saesneg Non Si Paga! Non Si Paga! (Can't Pay? Won't Pay!) bellach wedi'i dderbyn yn yr iaith honno ac ar dafod leferydd.[7] Llyfryddiaeth
Oriel
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia