Lewis Davies (uwchfrigadydd)
Milwr o Gymro a gyrhaeddodd reng Uwchfrigadydd yn y Fyddin Brydeinig oedd Lewis Davies (1776[1] neu 1777 – 10 Mai 1828).[2] Roedd yn fab i John Davies o'r Crugiau, Llanbadarn-fawr, Aberystwyth. Ymunodd â'r fyddin ym 1791.[2] Daeth yn Lefftenant yn yr 31ain Gatrawd y Traed ym 1794 a gwasanaethodd dan Syr Ralph Abercrombie yn India'r Gorllewin ym 1795,[3] a chafodd ei anafu yn ystod Brwydr St. Lucia ym 1796. Dyrchafwyd yn Gapten y flwyddyn honno, a daeth yn Uwchgapten yn y 36ain Gatrawd y Traed ym 1800. Brwydrodd yn yr Iseldiroedd dan Ddug Efrog, ar arfordir Ffrainc dan Syr John Pulteney, a tri gwaith ym Môr y Canoldir. Ym 1806 brwydrodd yn Hanofer dan yr Arglwydd Cathcart, ac yna gyda Dug Wellington ym Mhortiwgal, gyda Syr John Moore yn Sbaen, a gyda'r Arglwydd Chatham yn Vlissingen (Flushing). Erbyn 1812 roedd yn Gyrnol Mygedol yn rheoli'r 36ain Gatrawd dan Ddug Wellington, ac enillodd glod arbennig ym Mrwydr Salamanca ym 1812.[4] Priododd yr etifeddes Jane Davies, merch Matthew Davies Cwmcynfelin, yn Llanbadarn-fawr ym 1801.[1] Cafodd dri mab, Matthew Davies (ganwyd 1801), Lewis Charles (g.1803), a John Maurice, ac un ferch, Jane Anne (g.1805). Am y mwyafrif o'i briodas bu cartref Lewis Davies yng Nghwmcynfelin, ond ym 1822 a 1824 (pan oedd yn Gyrnol) bu'n rhentu Plas Penglais o Roderick Richardes. Ymddeolodd ar hanner cyflog ar ddiwedd 1814, o bosib o ganlyniad i anaf. Gwnaed yn Gydymaith y Baddon ym 1815, a chafodd ei ddyrchafu'n uwchfrigadydd ar 27 Mai 1825.[4] Adeiladodd Lewis Davies Blas Tan-y-bwlch ym mhlwyf Llanychaiarn ger Aberystwyth ym 1825.[5] Bu farw yno ym 1828 yn 51 oed.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia