Lauren Price
Mae Lauren Louise Price (ganwyd 25 Mehefin 1994) yn baffiwr/bocsiwr proffesiynol o Gymru sy'n bencampwraig pwysau welter y byd ac yn enillydd medal aur olympaidd bocsio. Cyn hynny, roedd Lauren yn focsiwr amatur, ac yn gyn-gic-focsiwr a phêl-droediwr.[1] Bywyd cynnarCafodd Price ei geni yng Nghasnewydd, ond cafodd ei magu yng Nghaerffili, gan ei thaid a’i nain.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Heolddu, Bargod.[3] Dangosodd ddiddordeb mawr mewn sawl camp, gan gymryd pêl-droed, pêl-rwyd a bocsio cic yn ddeg oed, yr olaf ar ôl anogaeth gan ei thad-cu.[4] Gyrfa chwaraeonFel cic-focsiwr, enillodd Price fedal arian mewn digwyddiad ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen yn 2007 yn 13 oed, gan gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr ddwywaith ei hoedran,[3] a daeth y cystadleuydd ieuengaf erioed ym Mhencampwriaethau Prydain.[5] Aeth ymlaen i fod yn bencampwr pedair gwaith y byd ac yn bencampwr Ewropeaidd chwe-amser yn y gamp ac yn ddiweddarach cystadlodd yn Taekwondo.[2] Ar ôl bod yn gapten ar Gymru ar lefel dan-19, enillodd ddau gap dros dîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn 2012-2013 tra'n chwarae i dîm pêl-droed Dinas Caerdydd. Fe wnaeth hi hefyd chwarae dros dîm pel-rwyd Cymru.[6] Paffio amaturCystadlodd dros Gymru yn y dosbarth pwysau canol y menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, lle enillodd fedal efydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal focsio Gemau'r Gymanwlad. Ragorodd hi ar y cyflawniad hwn trwy ennill aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia.[7] Ar ôl curo’r bocsiwr o’r Iseldiroedd Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol pwysau canol aeth ymlaen i ennill y fedal aur yn erbyn Li Qian o China yng Ngemau Olympaidd 2021 yn Tokyo.[8][7] Paffio proffesiynolEnillodd Lauren ei gornest broffesiynol gyntaf yn erbyn Valgerdur Gudsten-sdottir o Wlad yr Iâ ar 11 Mehefin 2022.[9] Daeth yn bencampwraig byd ar 11 Mai 2024 wrth guro Jessica McCaskill yng Nghaerdydd. Enillodd Lauren deitlau byd pwysau welter cylchgrawn Ring, WBA ac IBO. Cerddodd i'r cylch bocsio i gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.[10] Ar ôl ennill ei gornest, dywedodd, "Dwi ond yn mynd i wella. 'Da chi'n gweld beth mae Katie Taylor wedi gwneud dros Iwerddon; dwi isio gwneud yr un peth dros Gymru".[11] Cofnod paffio proffesiynol
Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia