Larry King
Roedd Larry King (ganwyd Lawrence Harvey Zeiger; 19 Tachwedd 1933 – 23 Ionawr 2021) yn ddarlledwr radio a theledu o'r Unol Daleithiau.[1] CefndirGanwyd King yn Brooklyn, Efrog Newydd yn un o ddau blentyn Jennie (Gitlitz), gwneuthurwr dillad ac Aaron Zeiger, perchennog bwyty. Roedd y rhieni yn Iddewon Uniongred. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Lafayette, Brooklyn.[2] Bu farw ei dad o drawiad ar y galon pan oedd King yn naw mlwydd oed. GyrfaDechreuodd King ei yrfa darlledu gan weithio fel glanhawr a chymhorthydd cyffredinol i gwmni radio WAHR ym Miami.[3] Wedi i un o'r cyflwynwyr ymadael yn ddisymwth gofynnwyd i Larry llenwi'r bwlch. Gan fod rheolwr yr orsaf yn credu bod yr enw Zeiger yn rhy ethnig ac yn anodd ei gofio, gofynnodd i Larry dewis enw llwyfan cyn y rhaglen. Dewisodd King o hysbyseb yn y Miami Herald ar gyfer cwmni gwirodydd King.[4] Roedd ei ddarllediad cyntaf ar 1 Mai, 1957, yn gweithio fel y joci disgiau rhwng 9 a.m. a hanner dydd. Bu hefyd yn darlledu dau slot newyddion a slot chwaraeon pob prynhawn. Dechreuodd ei yrfa deledu ar WPST-TV Channel 10 ym Mai 1960 yn cyflwyno Miami Undercover, sioe drafod pynciau llosg y dalaith.[5] Bu hefyd yn gwneud gwaith sylwebu i Radio WIOD ar gemau pêl-droed y Miami Dolphins. Collodd ei waith teledu a radio ym mis Rhagfyr 1971 pan gafodd ei arestio ar ôl i gyn partner busnes iddo ei gyhuddo o ddwyn o'u cwmni.[6] Gollyngwyd y cyhuddiadau. Yn y pen draw, ail gyflogwyd King gan WIOD. Am sawl blwyddyn yn ystod y 1970au, cyflwynodd sioe siarad chwaraeon o'r enw Sports-a-la-King a oedd yn cynnwys gwesteion a galwyr.[7] Ar 30 Ionawr, 1978, dechreuodd King darlledu yn genedlaethol ar raglen System Darlledu Gydfuddiannol nosweithiol The Larry King Show. Darlledwyd y rhaglen yn fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng hanner nos a 5:30 a.m. Amser y Dwyrain. Byddai King yn cyfweld â gwestai am y 90 munud cyntaf, gyda galwyr yn gofyn cwestiynau a barhaodd y rhaglen am 90 munud arall. Cyflwynodd King y sioe nes iddo roi'r gorau i'w swydd ym 1994.[8] Ym Mehefin 1985 symudodd King i gyflwyno ei raglen Larry King Live ar y sianel newyddion CNN. Ar y rhaglen bu King yn cyfweld ag ystod eang o westeion o ffigurau dadleuol i wleidyddion amlwg a ffigurau blaenllaw yn y diwydiant adloniant, yn aml yn gwneud eu cyfweliad cyntaf neu'r unig gyfweliad ar straeon newyddion arloesol ar ei sioe.[9] Yn wahanol i lawer o gyfwelwyr, roedd gan King ddull uniongyrchol, nad oedd yn gwrthdaro. Roedd ei enw da am ofyn cwestiynau penagored hawdd yn ei wneud yn ddeniadol i ffigurau pwysig a oedd am nodi eu safle wrth osgoi cael eu herio ar bynciau dadleuol. Trwy gydol ei yrfa, bu King yn cyfweld â llawer o ffigurau blaenllaw ei gyfnod. Yn ôl CNN, cynhaliodd King fwy na 30,000 o gyfweliadau yn ei yrfa.[10] Bu King hefyd yn ysgrifennu colofn papur newydd rheolaidd yn USA Today am bron i 20 mlynedd, o 1982 tan fis Medi 2001.[11] Gollyngwyd y golofn pan ailgynlluniodd y papur newydd ei adran "Bywyd". Cafodd y golofn ei hatgyfodi ar ffurf blog ym mis Tachwedd 2008 ac ar Twitter ym mis Ebrill 2009. Ar 29 Mehefin, 2010, cyhoeddodd King y byddai, ar ôl 25 mlynedd, yn camu i lawr o gyflwyno Larry King Live. Fodd bynnag, nododd y byddai'n aros gyda CNN i gyflwyno rhaglenni arbennig yn achlysurol. Daeth y cyhoeddiad yn sgil dyfalu bod CNN wedi cysylltu â Piers Morgan, personoliaeth teledu a newyddiadurwr o Loegr i gyflwyno rhaglen tebyg. Ar 17 Chwefror, 2012, cyhoeddodd CNN na fyddai’n cyflwyno rhaglenni arbennig mwyach. Ym mis Mawrth 2012, cyd-sefydlodd King Ora TV, cwmni cynhyrchu, ar y cyd a'r dyn busnes Mecsicanaidd Carlos Slim. Ar 16 Ionawr, 2013, dathlodd Ora TV eu canfed bennod o Larry King Now. Ym mis Medi 2017, nododd King nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymddeol byth ac roedd yn disgwyl cynnal ei raglenni hyd iddo farw. Llofnododd Ora TV gytundeb hir dymor gyda chwmni Hulu i gario cyfres we newydd o Larry King Now, gan ddechrau ar 17 Gorffennaf. Ar 23 Hydref, 2012, cadeiriodd King y ddadl arlywyddol trydydd parti ar Ora TV, gyda Jill Stein, Rocky Anderson, Virgil Goode, a Gary Johnson. Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd rhwydwaith RT America, cwmni o Rwsia, eu bod wedi taro bargen gydag Ora TV i gynnal sioe Larry King Now ar ei rwydwaith. Parhaodd y sioe i fod ar gael ar Hulu.com ac Ora.tv. Y mis canlynol, dechreuodd RT America darlledu sioe siarad wleidyddol newydd Larry King Politicking with Larry King. Roedd y rhaglen gyntaf yn drafodaeth rhwng y Cynrychiolydd Aaron Schock (G, Illinois), y Strategydd Gwleidyddol Democrataidd, Peter Fenn, a Dirprwy Olygydd Rheoli Politico, Rachel Smolkin am weithred Edward Snowden a ddatgelodd raglenni gwyliadwriaeth gyfrinachol yr NSA. TeuluBu King yn briod wyth gwaith â saith o ferched. O'i saith gwraig, ar adeg ei farwolaeth, roedd gan King bump o blant a naw o wyrion, yn ogystal â phedwar o or-wyrion. Ei wragedd oedd:[12]
MarwolaethAr 2 Ionawr 2021 datgelwyd bod King wedi bod yn yr ysbyty yn Los Angeles ar ôl profi’n bositif am COVID-19.[13] Ar 23 Ionawr, 2021, bu farw King yn 87 oed yng Nghanolfan Feddygol Cedars-Sinai, Los Angeles.[14] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia