Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2012
Cynhaliwyd etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012. Hon oedd y 57fed etholiad arlywyddol a gynhelir bob pedair blynedd i'r Coleg Etholiadol ethol arlywydd ac is-arlywydd, a bydd y Coleg yn gwneud hynny'n swyddogol ar 17 Rhagfyr 2012. Ymgyrchodd deiliad yr arlywyddiaeth, y Democratwr Barack Obama, am ail dymor.[1] Ei brif wrthwynebydd oedd cyn-Lywodraethwr Massachusetts, y Gweriniaethwr Mitt Romney.[2] Dim ond pedwar ymgeisydd arall oedd ag unrhyw siawns o ennill mwyafrif o'r coleg etholiadol (270 o bleidleisiau): cyn-Lywodraethwr New Mexico, y Rhyddewyllysiwr Gary Johnson;[3] Jill Stein, enwebiad y Blaid Werdd,[4] Virgil Goode, ymgeisydd y Blaid Gyfansoddiadol, a Rocky Anderson, ymgeisydd y Blaid Gyfiawnder.[5] Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai un o'r pedwar yma'n ennill yr etholiad, roedd yn bosib iddynt effeithio ar bleidleisiau Romney ac Obama.[6] Cafwyd tair dadl arlywyddol rhwng Obama a Romney, ac un ddadl is-arlywyddol rhwng Joe Biden, cydymgeisydd Obama, a Paul Ryan, cydymgeisydd Romney. Yn yr wythnos cyn yr etholiad, ymyrrodd Corwynt Sandy ar yr ymgyrch a gohiriodd Obama a Romney rhai digwyddiadau.[7] Wrth nesáu at ddiwrnod yr etholiad roedd y canlyniad yn rhy agos i ragfynegi ac yn ddibynnol ar naw talaith allweddol, ond yn ôl nifer o bolau piniwn roedd Obama ar y blaen o drwch blewyn.[8] Cafodd Obama ei ail-ethol wedi iddo sicrhau 270 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol.[9][10] Fflorida, un o'r taleithiau allweddol, oedd yr olaf i ddatgan canlyniadau ei phleidleisiau i'r Coleg Etholiadol ar 10 Tachwedd, a hynny o blaid Obama gan roi iddo gyfanswm o 332 o bleidleisiau'r Coleg o gymharu â 206 gan Romney. O ran y bleidlais boblogaidd, enillodd Obama 50% o'r bleidlais o gymharu â 49.1% gan Romney, mwyafrif o 74,000 o bleidleisiau.[11] YmgeiswyrPlaid DdemocrataiddCeisiodd yr Arlywydd yna-periglor Barack Obama a’r Is-Arlywydd Joe Biden gael eu hail-ethol, ar ôl ennill yn 2008.
Plaid Weriniaethol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia