La Marsa
Mae La Marsa (Arabeg: المرسى al-Marsa) yn dref arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis (36°52′60″Gog, 10°19′60″Dw). Mae ganddi boblogaeth o tua 65,742 (2006). Er iddi ddechrau ei dyddiau fel tref ar wahân fe'i hystyrir bellach yn rhan o Diwnis Fwyaf. Mae La Marsa yn gorwedd ar ben gogleddol Rheilffordd y TGM, sy'n ei chysylltu â Thiwnis ei hun. Gyda'i chymdogion Sidi Bou Saïd ac ardal Carthago mae'n un o'r trefi mwya dethol a chyfoethog yn y wlad ac mae prisiau tai yn uchel. Mae ganddi ddau draeth eang, tywodlyd, sy'n boblogaidd gan drigolion Tiwnis haf a gaeaf. Rhed y corniche (rhodfa'r môr) ar hyd y traeth gorllewinol. Y tu draw i'r corniche ceir ardal dra-ddethol Gammarth gyda gwestai pum seren a filas cyffelyb. Yma roedd llywodraeth y Diwnisia gyn-drefedigaethol yn arfer symud yn yr haf, i osgoi gwres llethol y brifddinas. Mae llawer o'r adeiladu yn dyddio o'r cyfnod Ffrengig. Ceir sgwâr tawel gyda mosg yng nghanol y dref, ger yr orsaf TGM. I'r gogledd-orllewin o La Marsa ceir llyn hallt Sebkha er-Riana. Mae Maes Awyr Tiwnis-Carthago yn gorwedd hanner ffordd rhwng La Marsa a'r brifddinas. |
Portal di Ensiklopedia Dunia