L'Origine du monde
![]() Llun a baentiwyd gan yr arlunydd Ffrengig Gustave Courbet ym 1866 yw L'Origine du monde (Ffrangeg, yn golygu Tarddiad y Byd). Mae'n baentiad olew ar gynfas o organau rhyw ac abdomen dynes noeth sy'n gorwedd ar wely gyda'i choesau ar led. Mae'n un o weithiau celf erotig mwyaf adnabyddus y byd. Er 1995 mae i'w weld yn y Musée d'Orsay, Paris. Mae'n debyg mai Joanna Hiffernan, neu "Jo", oedd y model. Roedd hi'n gariad yr artist Americanaidd James Whistler, un o ddisgyblion Courbet ar y pryd. Bwriad Courbet oedd ymestyn ffiniau realaeth mewn celf a hefyd dangos i fyny rhagrith sefydliad y cyfnod a dderbyniai erotiaeth mewn gwisg Glasurol, e.e. mewn paentiadau gan Hen Feistri ar bynciau mytholegol, ond a weithredai sensoriaeth lem yn erbyn portreadau realaidd o'r corff dynol a rhywioldeb. Comisiynwyd y gwaith gan Khalil Bey, diplomydd Tyrcaidd, cyn lysgenad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn Athen a Saint Petersburg a oedd newydd symud i Baris. Roedd yn gasglwr brwd o gelf erotig. Aeth y paentiad trwy sawl dwylo ar ôl hynny cyn mynd i'r Musée d'Orsay yn 1995. Gwerthir mwy o gardiau post o'r paentiad nag o unrhyw lun arall yng nghasgliad y Musée d'Orsay, heb law Bal du moulin de la Galette gan Renoir.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia