Kirsten Oswald
Gwleidydd o'r Alban yw Kirsten Oswald (Kirsten Frances Oswald) (ganwyd 21 Rhagfyr 1972). Fe'i hetholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Swydd Renfrew; mae'r etholaeth mewn sir o'r un enw. Mae Kirsten yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. BywgraffiadGanwyd Kirsten Oswald yn Dundee a chafodd ei magu yn Carnoustie ble raeth i Ysgol Uwchradd Carnoustie. Wedi hynny astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Glasgow. Yn 2008 symudodd gyda'r gŵr a'u dau blentyn i Dwyrain Swydd Renfrew. Ei mam yw Helen Oswald, Profost Angus.[1] Mae'n uwch swyddog mewn adnoddau dynol, ac fe'i hysbrydolwyd i gydio wleidydda dros annibyniaeth yr Alban yn ystod yr ymgyrch dros 'ie' cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 pan ymunodd a'r SNP.[2] Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Kirsten Oswald 23013 o bleidleisiau, sef 40.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 3718 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia