KF Elbasani
Mae Klubi i Futbollit Elbasani yn dîm pêl-droed yn Albania sydd wedi ei lleoli yn ninas Elbasan ac sydd, yn ystod ei hanes, wedi cystadlu yn adran uchaf y wlad. HanesSefydlwyd y clwb yn 1913 o dan yr enw, Klubi Futbollit Urani Elbasan trwy uno dau dîm o'r ddinas, Afredita Elbasan a Perparimi Elbasan. Mae'r clwb wedi cael sawl enw yn ystod ei fodolaeth. Yn 1932, enw'r tîm oedd KS Skampa Elbasan yn 1939 KS Bashkimi yn 1949 KS Elbasani yn 1950 Puna Elbasan ac o 1958 hyd at 1991 fe'i gelwir yw KS Labinoti Elbasan. Yn y tymor 1984-85, cystadleuodd y clwb mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf. Yn y tymor 2005-06 buont yn cystadlu yng Nghwpan UEFA, lle cafodd ei trwchwyd nhw yn y rownd gyntaf gan y FK Vardar o Weriniaeth Macedonia. Cit
StadiwmMae KF Elbasani yn chwarae yn stadiwm yr Elbasan Arena sy'n adnewyddiad o hen stadiwm y clwb, a enwyd yn stadiwm Ruzhdi Bizhuta ar ôl un o chwaraewyr enwog y clwb. Mae'r stadiwm newydd yn cynnal gemau pêl-droed ryngwladol gan gynnwys gêm Albania yn erbyn Cymru ar 20 Tachwedd 2018. Teitlau
Hanes mewn Cystadlaethau Ewropeaidd
Cwpan y Balcan
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia