Elbasan
Dinas yng nghanolbarth Albania yw Elbasan (Albaneg: Elbasan neu Elbasani). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Shkumbin yn Ardal Elbasan a Swydd Elbasan (41°06′Gog, 20°04′Dwy). Elbasan yw'r ddinas drydedd fwyaf yn Albania, gyda phoblogaeth o tua 100,000 (amcangyfrifiad 2003) ac arwynebedd o 1,290 km². Roedd yn gorwedd ar y Via Egnatia yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae sawl enw ar ydref; Neokastron (Νεόκαστρον "Castell Newydd") yn Groeg, Novigrad ("Dinas Newydd") yn Slafeg a Terra Nuova ("Tir Newydd") yn Eidaleg. Daw'r enw cyfoes o'r Twrceg, il-basan ("y gaer").[1] Adeiladau a chofadeiladau
EconomiDechreuodd datblygiad diwydiannol yn ystod y teyrnasiad y Brenin Zog gyda chynhyrchu tybaco a diodydd alcoholig, a daeth i ben yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol. Enillodd y ddinas amlygrwydd ar ôl adeiladu melin ddur yno yn 1974 yn ogystal â diwydiannau eraill. Roedd y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer diwydiant trwm yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol, gan ganolbwyntio ar ffatrïoedd prosesu metelegol a metel yn bennaf. Achosodd pob un o'r diwydiannau hyn lygredd mawr ac ystyrir mai Elbasan yw un o ddinasoedd mwyaf llygredig Albania heddiw. Stadiwm Elbasan ArenaYn dilyn yr angen i uwchraddio stadiwm yn y wlad ar gyfer safonau UEFA bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania gynnal gemau rhyngwladol mewn stadiymau eraill yn y wlad. Dewisiwyd adnewyddu Stadiwm Ruzhdi Bizhuta yn Elbasan. Dyma stadiwm y tîm cartref KF Elbasani. Yn 2014 agorwyd stadiwn newydd yr Elbasan Arena ar gyfer gemau rhyngwladol. Gefailldrefi
Enwogion
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia