John Williams (cerddor)
Cerddor o Gaernarfon oedd John Williams (Gorfyniawc o Arfon) (1814 – 27 Mawrth 1878). CefndirGanwyd o yn Nhal-y-bont, ger Bangor, yn fab i Thomas Williams, llifiwr coed. Dysgodd elfennau o gerddoriaeth yn ysgol Robert Williams, Carneddi, Llanllechid. Pan oedd yn 25 aeth i Lerpwl, lle cafodd gyfarwyddyd pellach mewn cerddoriaeth gan Thomas Woodward; Dysgodd rhywfaint o Hebraeg hefyd. Cafodd swydd yn swyddfeydd cwmni nwy Lerpwl a daeth yn Brif Ysgrifennydd yr cwmni yn y pen draw.[1] Yn 1847 dechreuodd gyhoeddi Y Canrhodydd Cymreig, mewn rhannau, ond oherwydd trwbl argraffu dim ond pedair rhan gafodd ei argraffu. Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, ac yn y diwedd aeth yn golled ariannol iddo. Yn 1849 trefnodd rifyn newydd o Gramadeg Cerddoriaeth (John Mills). Ysgrifennodd erthyglau ar gerddoriaeth ar gyfer Y Gwyddoniadur Cymreig, a chyfansoddodd neu drefnodd emynau ar gyfer Telyn Seion (R. Beynon), ar gyfer Seren Gomer, ac ar gyfer rhai casgliadau a gyhoeddwyd gan Richard Mills. Bu'n feirniadu mewn amryw o wyliau cerddorol ac yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1862. Ffynonellau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia