John Williams (casglwr llawysgrifau)
Casglwr llawysgrifau Cymreig ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd Syr John Williams (6 Tachwedd 1840 – 24 Mai 1926). Fe'i ganed ar fferm "Y Beili", Gwynfe, Sir Gaerfyrddin a bu farw yn "Blaenllynant", Aberystwyth. Cafodd yrfa fel llawfeddyg yn Abertawe ac yna yng Ngholeg Prifysgol Llundain; fe'i gwnaed yn farchog ym 1894 am ei wasanaeth i lawfeddygaeth, a dychwelodd i'w sir enedigol ym 1903 i fyw yn Llansteffan. Trwy gydol ei oes bu'n gasglwr llawysgrifau brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel Llawysgrifau Llansteffan, yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel Gwallter Mechain a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd Lewis Morris, ac eraill. Yn ogystal, prynodd Lawysgrifau Peniarth ym 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg erioed. Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd llawysgrifau pwysicaf Cymru yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl. Hanes ei fywyd![]() Ganwyd John Williams yn 1840 yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Abertawe, a graddiodd ym Mhrifysgol Glasgow a Phrifysgol Llundain cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus fel llawfeddyg. Tra bu’n gweithio yn Llundain yn ystod chwarter olaf y 19g daeth yn ŵr cyfoethog a dylanwadol ac yn feddyg i’r teulu brenhinol. Roedd ei fryd ar gasglu hen bethau Cymreig, a thyfodd ei gasgliad i gynnwys dros 25,000 o eitemau. Yn eu plith roedd 19 o’r 22 llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd cyn 1700, yn cynnwys y llyfr cynharaf i gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg, Yn y lhyvyr hwn (1546). Roedd yn gasglwr brwd o lawysgrifau. Yn 1904 prynodd John Williams gasgliad llawysgrifau Peniarth a’i gyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth. Roedd y casgliad amhrisiadwy hwn yn cynnwys trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin, Cyfreithiau Hywel dda a Llyfr Gwyn Rhydderch. Ymgyrchodd yn egnïol i ennill llyfrgell genedlaethol i Gymru drwy annerch cyfarfodydd cyhoeddus ac ysgrifennu llythyrau at bapurau newydd. Ef i raddau helaeth oedd yn trefnu’r ymgyrch dros ei sefydlu. Fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad enwyd John Williams yn Llywydd cyntaf y Llyfrgell, a daliodd y swydd honno hyd ei farwolaeth yn 1926. ![]() Ef yw’r noddwr unigol mwyaf yn hanes y Llyfrgell. Roedd ei roddion yn sicrhau bod y sefydliad newydd yn cael ei gydnabod fel Llyfrgell Genedlaethol go iawn o’r cychwyn cyntaf. Urddwyd ef yn farchog yn 1911 ar achlysur gosod carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol. Mae cerflun marmor o Syr John Williams wedi ei osod mewn safle amlwg ym mhen gorllewinol Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1][2] Portreadwyd ef hefyd gan ‘un o’r arlunwyr mwyaf dawnus o Gymru', yn ôl David Lloyd George. Yr artist oedd Christopher Williams, a ddaeth yn enwog yn sgil ei ddarlun o Frwydr Mametz yn 1916 o dan y teitl Charge of the Welsh Division at Mametz Wood. Bu barn Syr John Williams ar Gymru a Chymreictod yn ddylanwad mawr ar yr artist, a chyflwynodd John Williams lawer o ysgolheigion amlwg iddo.[3] Mewn diwylliant poblogaiddYn ffilm Y Llyfrgell mae’r cymeriad Dan yn honni mai Syr John oedd y llofrudd cyfresol ‘Jack the Ripper’. Daw’r cyhuddiad o lyfr a gyhoeddwyd yn 2005[4] a ysgrifennwyd gan un o ddisgynyddion honedig y llawfeddyg, Michael Anthony Williams, a’i gyd awdur Humphrey Price. Mae'r awduron yn honni bod y merched a lofruddiwyd yn adnabod y meddyg yn bersonol a'u bod wedi eu lladd a’u llurgunio mewn ymgais i ymchwilio i achos anffrwythlondeb ei wraig. Mae'r llyfr hefyd yn honni mai cyllell lawfeddygol a oedd yn eiddo i Syr John Williams, sydd i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, oedd arf y llofrudd.[5] Mae amheuon difrifol wedi eu codi gan eraill am gymhwysedd a chymhelliant yr awduron.[6][7] Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Gweler hefyd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia