Jan Morris
Awdures a hanesydd o Gymru oedd Jan Morris CBE (2 Hydref 1926 – 20 Tachwedd 2020).[1][2] Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei thriawd Pax Britannica, hanes Ymerodraeth Prydain, a phortreadau dinasoedd, yn enwedig Rhydychen, Fenis, Trieste a Dinas Efrog Newydd. Ysgrifennodd am hanes a diwylliant Sbaen. Ystyriodd ei hun yn Gymraes a symudodd i Lanystumdwy yn yr 1960au.[2] Fel James Morris, roedd hi'n aelod o'r cyrch ar Everest yn 1953 gan griw Edmund Hillary, a ddringodd y mynydd am y tro cyntaf.[3] Hi oedd yr unig newyddiadurwr i fynd ar y cyrch, gan ddringo gyda'r tîm i'r gwersyll 22,000 troedfedd fyny ar y mynydd, gan anfon y cyhoeddiad nodedig yn ôl i bapur newydd The Times mewn pryd i'w gyhoeddi ar 2 Mehefin 1953, diwrnod coroni Elizabeth II.[4][2] Bywyd cynnar ac addysgGanwyd James Humphrey Morris yn Clevedon, Gwlad yr Haf i fam o Loegr a thad o Gymru. Fe'i addysgwyd yn Lancing College, Gorllewin Sussex.[2] Bywyd personolYm 1949, pan oedd dal yn James, priododd Elizabeth Tuckniss (31 Awst 1924 – 17 Mehefin 2024), merch i blannwr tê. Cafodd Morris a Tuckniss bump o blant gyda'i gilydd, sef y bardd a'r cerddor Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys. Bu farw un o'u plant pan oedd yn faban.[2] Dywedodd Morris yn ei hunangofiant Conundrum iddi ddechrau trawsnewid rhywedd ym 1964. Erbyn 1972, cafodd lawdriniaeth newid rhyw ym Moroco. Gwnaed y llawdriniaeth gan Georges Burou, am fod doctoriaid yn y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwneud y llawdriniaeth oni bai fod Morris a Tuckniss yn ysgaru, rhywbeth nad oedd Morris yn awyddus i wneud bryd hynny.[5] Ysgarodd y ddau ohonynt yn ddiweddarach, ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd. Ar 14 Mai 2008 unwyd y ddau ohonynt yn gyfreithiol drwy bartneriaeth sifil.[6][2] Bu farw Elizabeth yn 99 mlwydd oed yn 2024.[2] MarwolaethCyhoeddwyd ei marwolaeth yn 94 mlwydd oed gan ei mab Twm Morys ar 20 Tachwedd 2020. Bu farw am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mwllheli, Llŷn.[2] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia