Hywel Teifi Edwards
Beirniad llenyddol a hanesydd diwylliannol o Gymru oedd Hywel Teifi Edwards (15 Hydref 1934 – 4 Ionawr 2010). Roedd yn arbennigwr ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. BywgraffiadCafodd ei fagu yn Aberarth, Ceredigion, ac aeth i Ysgol Ramadeg Aberaeron a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg y Garw, lle y cyfarfu a'i wraig Aerona, cyn ymuno ag Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe fel tiwtor llenyddiaeth Gymraeg. Daeth yn athro cadeiriol a Phennaeth Adran Gymraeg y coleg cyn iddo fe ymddeol. Ei arbenigedd oedd hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn enwedig hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros etholaeth Llanelli yn 1983 a thros etholaeth Caerfyrddin yn 1987. Roedd yn dad i'r newyddiadurwr Huw Edwards. Bu farw ar 4 Ionawr 2010 yn Hosbis Tŷ Bryngwyn yn Llanelli ar ôl cyfnod byr o salwch.[1] CofiantEnillodd Tudur Hallam gadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 am ei awdl yn cofio am Hywel Teifi. Lansiwyd Academi Hywel Teifi fel rhan o Brifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010. Llyfryddiaeth
Astudiaethau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia