Hywel Griffiths
Bardd, awdur, darlithydd ac ymgyrchydd gwleidyddol[1] yw'r Prifardd Ddr Hywel Meilyr Griffiths (ganed 18 Mawrth 1983)[2] . BywgraffiadGaned Hywel Griffiths yng Nghaerfyrddin ac fe'i magwyd ar fferm ger Llangynog. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Mynychodd Ysgol Gynradd Llangynog, Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio fel darlithydd yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol erbyn hyn.[3][4] Mae hefyd yn gyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.[5] Hywel oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn a hanner rhwng Mawrth 2007 a Hydref 2008. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 (Ynys Môn) ac yn 2007 (2007), a Choron Eisteddfod Caerdydd 2008 gyda'i ddilyniant o gerddi rhydd ar y testun "Stryd Pleser" dan yr enw Y Tynnwr Lluniau.[6] Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015.[7] Cyrhaeddodd ei gasgliad unigol cyntaf o gerddi, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2011 yng nghategori Llyfrau Cymraeg ar gyfer y sector cynradd gyda'i nofel gyntaf i blant, sef Dirgelwch y Bont[6]. LlyfryddiaethBarddoniaeth
Llyfrau plant
Erthyglau
Gwobrau ac anrhydeddau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia