Huw Stephens
Cyflwynwr radio a theledu o Gymro ydy Huw Stephens (ganwyd 25 Mai 1981), sy'n gweithio yn bennaf ym myd cerddoriaeth. Mae Huw yn cyflwyno rhaglen wythnosol ar BBC Radio Cymru a sioe frecwast ar Radio Cymru 2. Roedd yn cyflwyno'r rhaglen deledu Bandit ar S4C. Bywyd cynnar ac addysgGanwyd Huw yng Nghaerdydd yn 1981, yn fab i Ruth a Meic Stephens. Mae ganddo dair chwaer.[1] Mynychodd Ysgol Glantaf. GyrfaRadioDechreuodd Stephens ddarlledu ar Radio 1 yn 1999, pan oedd yn 17 mlwydd oed, fel rhan o'u darllediadau rhanbarthol newydd yng Nghymru. Cyflwynodd ar y cyd gyda Bethan Elfyn, ac ef oedd y cyflwynydd ieuengaf erioed i weithio ar Radio 1. Yn 2005, dechreuodd Stephens ddarlledu ar Radio 1 drwy wledydd Prydain, wedi marwolaeth John Peel, fel un o'i olynyddion yn elfen One Music Radio 1. Bwriad hwn oedd i gadw ysbryd rhaglen John Peel yn fyw. Wedi i One Music ddod ben parhaodd Huw yn i ddarlledu yn hwyr yn y nos gan ddarlledu ar raglenni Steve Lamacq a Zane Lowe pan oedden nhw ar eu gwyliau. Mae hefyd yn cyflwyno 'podcast' wythnosol Radio 1, sef "Huw Stephens Introducing...' (A.K.A. Best Of Unsigned)". Cyhoeddwyd yn Nhachwedd 2020 y byddai'n gadael Radio 1 ar ddiwedd y flwyddyn, ar ôl 21 mlynedd. Bydd yn parhau i gyflwyno yn Saesneg ar BBC Radio 6 Music.[2] TeleduCyflwynodd y rhaglen deledu gerddoriaeth i bobl ifanc Bandit rhwng 2004 a 2011. Yn 2018 cyflwynodd ffilm nodwedd Anorac am gerddoriaeth Cymraeg. Roedd y ffilm yn bererindod cerddorol o gwmpas Cymru, i ddathlu hanner can mlynedd o gerddoriaeth pop Cymraeg. Cafodd ei ddangos gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ac ar deledu am y tro cyntaf ar S4C, 4 Ebrill 2019[3] Gweithgareddau eraillSefydlodd ŵyl gerddoriaeth newydd ar gyfer Caerdydd yn 2007. Cynhaliwyd Sŵn am y tro cyntaf ar 9–11 Tachwedd 2007 mewn 13 lleoliad ar draws y ddinas. Mae'r ŵyl yn dod a bandiau, DJs a pherfformwyr cyffrous, o Gymru a ledled Prydain, at ei gilydd i ganol Caerdydd ynghyd â chelf a ffilm. Mae gan Stephens golofn wythnosol ym mhapur newydd y Western Mail. Yn ôl ei dad, "Pan oedd e'n ifanc iawn, ac yn dechrau ysgrifennu, roeddd e'n dueddol o ysgrifennu ar ddarnau o bapur o gwmpas y tŷ. Dw i'n cofio gweld nodyn un tro yn dweud, 'Ai opynd ddy dôr and ai dropt on ddy fflôr'!"[4] Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer Kruger Magazine, The Independent, The Mirror, NME ac mae wedi bod yn olygydd gwadd ar gyfer blog cerddoriaeth The Guardian. Sefydlodd Stephens label recordio Boobytrap Records yn 2000 ynghyd â ffrind, ond daeth y label i ben yn 2007. Bu hefyd yn rhedeg y label Am.[5] Yn Mai 2018, cyhoeddwyd mai Stephens fyddai Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.[6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia