Harriet Beecher Stowe
Nofelydd o'r Unol Daleithiau ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth oedd Harriet Elizabeth Beecher Stowe (14 Mehefin 1811 – 1 Gorffennaf 1896). Mae'n fwyaf enwog fel awdur y nofel Uncle Tom's Cabin (1852). Ganed hi yn Litchfield Connecticut, yn ferch i Lyman Beecher a Roxana Foote Beecher. Dywedir fod y teulu o dras Gymreig. Roedd ei thad yn bregethwr, a daeth ei brawd, Henry Ward Beecher, i amlygrwydd fel pregethwr yn ddiweddarch. Yn 1836 priododd Calvin Ellis Stowe, yntau'n weinidog, a symudasant i Brunswick, Maine. Cawsant saith o blant, ond bu farw pedwar ohonynt o flaen Harriet. Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif yn 1851, yn rhannol oherwydd ei hawydd i wneud rhywbeth i wrthwynebu caethwasiaeth, gyda chefnogaeth William Lloyd Garrison, golygydd The Liberator. Ymddangosodd ei gwaith yn y papur The National Era dan y teitl Uncle Tom's Cabin or Life Among the Lowly. Yn 1852 cyhoeddwyd y gwaith fel llyfr, a bu'n llwyddiant enfawr. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol. Gweithiau (anghyflawn)
|
Portal di Ensiklopedia Dunia