Caban F'ewyrth Twm
Mae Caban F'ewyrth Twm (Teitl gwreiddiol Saesneg: Uncle Tom's Cabin; neu, Life Among the Lowly) yn nofel gan yr awdures Americanaidd Harriet Beecher Stowe a gyhoeddwyd yn 1852. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar gaethwasiaeth, a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir iddi fod yn allweddol wrth greu'r agweddau a arweiniodd at Ryfel Cartref America. Dywedir i Abraham Lincoln, pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma". Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant Josiah Henson, cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i Ganada yn 1830. Bu Stowe hefyd yn siarad â chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision wrth gasglu deunydd ar gyfer y llyfr. Gwerthwyd mwy o gopiau o Uncle Tom's Cabin nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y 19g ac eithrio'r Beibl. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol. Addasiad CymraegCyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl Caban F'ewyrth Twm, yn 1853. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees (Gwilym Hiraethog) wedi ymddangos fel penodau wythnosol yn Y Faner, papur newydd Rhyddfrydol Thomas Gee: fe'i cyhoeddwyd fel Aelwyd F'Ewythr Robert ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu yng ngogledd Cymru yn darllen Caban F'Ewythr Twm (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun Radicaliaeth Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner 19g. Cyhoeddwyd talfyriad Cymraeg tua'r un adeg gan Thomas Levi. Mae F'Ewythr Tomos: cân ddyri 1854, yn amlinelliad o'r stori ar ffurf cerdd gan Eben Fardd.[1] Defnydd IaithCeir trafodaeth ar y defnydd o'r iaith yn y cyfieithiadau Cymraeg lle ceisir dangos y diglossia rhwng iaith y siaradwyr Gwyn ac iaith y caethweision. Cyhoeddwyd papur ar y gwahanol cywair iaith gan David Willis yn 2016.[2] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia