Harri Parri (Harri Bach o Graig-y-gath)
Roedd Harri Parri (Harri Bach o Graig-y-gath) (1709 – 1800) yn fardd gwlad a chlerwr Cymreig.[1] CefndirGanwyd Harri Bach yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn. Gan ei fod yn brolio iddo gael ei eni yn y flwyddyn y bu farw Huw Morus (Eos Ceiriog 1622 - 1709), a gan hynny wedi etifeddu ei enaid prydyddol, gellir bod yn weddol hyderus mae 1709 oedd blwyddyn ei enedigaeth.[2] Yr unig Harri ap Harri i gael ei fedyddio yn Llanfihangel-yng-ngwynfa yn ystod y cyfnod oedd Harri fab Harri Tomos o Ddolwar a bedyddiwyd ar 9 Mai 1709 [a]. Mae'n bosib, ond nid oes sicrwydd, mae hwn oedd Harri Bach. GyrfaLlifiwr coed oedd Harri bach wrth ei alwedigaeth. Llifo ar dir Llwydiarth ydoedd pan aeth Gwallter Mechain ato i ymofyn cyngor am reolau canu caeth.[3] Cyhoeddwyd ychydig o'i englynion mewn almanaciau. Mae'r cyntaf i'w gweld yn Almanac Siôn Prys ym 1744 , lle ceir englyn o'i eiddo a defnyddiwyd i agor eisteddfod yn Llanfair Caereinion. Yn Almanac Howell, Llanidloes ceir cyfres o 19 o englynion lle mae'n dwrdio anghydffurfwyr a Methodistiaid o dan y pennawd Ceryddiad difrifol i'r Methodistiaid sy'n cynnwys ei englyn enwocaf: [4]
Yn ystod blynyddoedd olaf ei oes, pan oedd wedi mynd rhy hen i lifo lawer, byddai Harri Bach yn ennill tamaid trwy glera. Cyfansoddai Carolau pob mis Mai yn adrodd newyddion y flwyddyn ddiwethaf, gan eu canu mewn ffeiriau, a byddai'n talu am fwyd a llety trwy ganu englynion o glod i'w lletywyr.[5] MarwolaethBu farw Harri Bach tua 90 / 91 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanfihangel-yng-Ngwynfa ar 15 Tachwedd 1800.[6] Nodiadau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia