Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd
Merch y Tywysog Dafydd ap Gruffudd oedd Gwladys (m. 1336). Wedi dienyddio'i thad yn yr Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru, gyrrwyd Gwladys i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336,[1] tra charcharwyd brodyr bychain Gwladys Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste, cyn eu dienyddio hwythau. Ychydig iawn a wyddom am Gwladys cyn iddi gael ei danfon i Leiandy Sixhills. Priordy a lleiandy SixhillsSefydlwyd Priordy Priordy'r Santes Fair (Urdd Gilbert), yn Sixhills (enw diweddar) yn y 14g. Mae lleiandy gerllaw'r safle yn dal i sefyll.[2] Ar orchymyn Edward I gyrrwyd Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd yno, lle bu farw yn 1336. Talodd y brenin £20 y flwyddyn am ei chadw.[3][4] yma hefyd y carcharwyd Christina Seton, chwaer Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) a gwraig Syr Christopher Seton a ddienyddiwyd hefyd gan Edward I. Bu'n lleian yma rhwng 1306 a 1314.[5] Llinach
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia