Dafydd ap Gruffudd
Roedd Dafydd ap Gruffudd (c. 11 Gorffennaf (?) 1238 – 3 Hydref 1283), Arglwydd Dyffryn Clwyd, yn Dywysog Cymru o Ragfyr 1282 hyd 1283, yn dilyn marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd. Ef oedd yr olaf o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, er mai ei frawd Llywelyn a gafodd y teitl Ein Llyw Olaf. Blynyddoedd cynnarRoedd Dafydd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn Fawr a'i wraig Senana, ac felly'n wŷr i Llywelyn Fawr. Y trydydd o bedwar mab oedd Dafydd. Yn 1241 cofnodir iddo ef a'i frawd iau Rhodri gael eu rhoi'n wystlon i'r brenin Harri III o Loegr fel rhan o gytundeb.Yn 1253 cofnodir iddo gael ei alw i dalu gwrogaeth i Harri III. 1255-81Yn 1255 ymunodd â'i frawd Owain yn erbyn Llywelyn, ond cawsant eu gorchfygu ganddo ym Mrwydr Bryn Derwin. Carcharwyd Dafydd, ond rhyddhaodd Llywelyn ef y flwyddyn ddilynol a'i adfer i'w lys. Yn 1263 ymunodd â Harri III mewn ymgyrch yn erbyn Llywelyn. Wedi i Lywelyn gael ei gydnabod gan Harri fel Tywysog Cymru yn ôl Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, adferwyd Dafydd i ffafr Llywelyn eto, ond yn 1274 ymunodd â'r brenin Edward I, brenin Lloegr mewn ymgyrch arall yn erbyn Llywelyn. Priododd ag Elizabeth Ferrers, merch William de Ferrers, Iarll Derby a pherthynas pell i'r brenin. Rhyfel 1282-83Roedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar Sul y Blodau[1] (21 Mawrth 1282)[2] ymosododd Dafydd ar Benarlâg, gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Roedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng Nghilmeri ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw Castell Dolwyddelan am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar 18 Ionawr 1283, enciliodd Dafydd i Gastell y Bere, lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar 25 Ebrill[3] ond llwyddodd Dafydd i ddianc i Gastell Dolbadarn, cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau Cader Idris. Ei ddiweddAr 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd. Ar 30 Medi dedfrydwyd ef i farwolaeth am deyrnfradwriaeth, oherwydd ei fod wedi torri cytundebau a wnaeth â'r brenin. Llusgwyd trwy strydoedd yr Amwythig gan geffyl, cyn ei grogi, ei adfywio am ychydig ac yna rhwygwyd ei berfedd allan o'i fol. Taflwyd y perfeddau i'r tân o flaen ei lygad. Torrwyd ei ben i ffwrdd a'i roi ar bigyn yn Nhŵr llundain, yn nesaf at ei frawd Llywelyn. Torrwyd ei gorff yn chwarteri.[4] Mae rhai yn credu mai ef oedd y cyntaf i ddioddef y math yma o ddienyddiad erchyll yn gosb am deyrnfradwriaeth, a ddaeth yn gyffredin dan gyfraith Lloegr yn y canrifoedd nesaf. Yr enw mwyaf cyffredin ar y gosb yw crogi, diberfeddu a chwarteru. Ni ddefnyddiwyd y gosb hon gan Gymru ar deyrnfradwyr o Loegr erioed. Tynged yr etifeddionGyrrwyd ei ferch Gwladys, i leiandy yn Sixhills, Swydd Lincoln, lle bu farw yn 1336,[5] tra charcharwyd ei feibion bychain Llywelyn ac Owain yng Nghastell Bryste. Cawsant yr un driniaeth ag etifeddion Llywelyn Ein Llyw Olaf felly, gyda'r bwriad gan Edward I o ddileu Teulu Gwynedd am byth. Yn ôl rhai o'r achau Cymreig, goroesodd ei fab perth a llwyn, Dafydd Goch, a bu ei ddisgynyddion yn byw yn Nant Conwy am sawl cenhedlaeth.
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia