Gwirfoddolwyr Gwyddelig
Mudiad militaraidd a sefydlwyd yn 1913 gan nifer o genedlaetholwyr Gwyddelig oedd y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Gwyddeleg: ''Óglaigh na hÉireann''; Saesneg: 'Irish Volunteers'). Fe'i ffurfiwyd fel ymateb i ffurfio'r Ulster Volunteers yn 1912. Ei amcanion oedd: "i sicrhau a chynnal hawliau a rhyddid holl drigolion Iwerddon".[1][2] Roedd nifer o aelodau'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig hefyd yn aelodau o'r Gynghrair Wyddelig (neu'r Conradh na Gaeilge, sy'n dal i fodoli heddiw (2016)), Hen Urdd yr Hiberniaid, Sinn Féin[3] a'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, sef yr IRB. Llinyn mesur o'u llwyddiant yw'r ffaith iddynt gynyddu eu haelodaeth dros nos - erbyn canol 1914 roedd ganddynt 200,000 o aelodau. Ym Medi'r flwyddyn honno fe'u holltwyd, fodd bynnag, yn bennaf oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf; credai Eoin MacNeill na ddylai gwyddelod ymladd ym Myddin Lloegr ac y dylai Iwerddon aros yn niwtral, barn John Redmond oedd y dylai aelodau'r Gwirfoddolwyr hefyd ymladd catrodau Gwyddelig o fyddin Lloegr. Er yr hollt, parhau wnaeth y Gwirfoddolwyr ac ymladdodd ei aelodau yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ochr-yn-ochr gyda Byddin Dinasyddion Iwerddon, Cumann na mBan, a Fianna Éireann. Yn 1919 bu hefyd yn rhan o Ryfel Annibyniaeth Iwerddon gan ailffurffio'n ddiweddarach yn fudiad a alwyd yn Fyddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22). Gwrthryfel y Pasg, 1916
Wedi ymadawiad Redmond, ailstrwythurwyd, a chafwyd cyfansoddiad a gadarnhawyd gan 160 o'u haelodau ar 25 Hydref 1914. Yn Rhagfyr, penodwyd y canlynol yn brif filwyr: Eoin MacNeill (Chief of Staff), The O'Rahilly (Cyfarwyddwr Arfau), Thomas MacDonagh (Prif Hyfforddwr), Patrick Pearse (Cyfarwyddwr Trefniadau Milwrol), Bulmer Hobson (Arfau) a Joseph Plunkett (Cyfarwyddwr y Gweithgareddau Milwrol). Yn 1915, ymunodd Eamonn Ceannt (Cyfryngau) a J.J. O'Connell (Prif Arolygydd). Dan arweinyddiaeth MacNeill, bu'r Gwirfoddolwyr yn rhan o'r Gwrthryfel, er mai gweledigaeth y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol oedd y Gwrthryfel, mewn gwirionedd. Roeddent wedi sylweddoli fod ffocws Llywodraeth Prydain wedi symud - i gyfeiriad yr Almaen, ac y dylent wneud yn fawr o'r 'man gwan' hwn, drwy ymosod. Gorchmynodd Pearse dridiau o ymarfer, paredio a symudiadau - er mwyn eu cael yn barod i'r gwaith go iawn, ond sylweddolodd MacNeill beth oedd ar y gweill a cheisiodd eu hatal, ond ni pharhaodd yr oedi'n fwy na diwrnod. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia