Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol
Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood, IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn "weriniaeth ddemocrataidd annibynnol". Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924.[1] Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gwyddeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'.[2] Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au ac 'Iwerddon Ifanc' (Young Ireland) y 1840au. Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'.[3] Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon. Gwrthryfel y PasgSefydlwyd yr Ulster Volunteers yn 1912 er mwyn atal annibyniaeth i Iwerddon, a hynny drwy drais. O stabl y frawdoliaeth Wyddelig y daeth mudiad arall, sef y Gwirfoddolwyr Gwyddelig, a hynny yn 1913.[4] Defnyddiodd y Frawdoliaeth y Gwirfoddolwyr i ricriwtio aelodau cadarn e.e. Joseph Plunkett, Thomas MacDonagh, a Patrick Pearse, a gyfetholwyd yn 1915 i brif bwyllgor y Frawdoliaeth, sef yr Uwch-Gyngor, gyda Seán Mac Diarmada yn un o'r prif gynllunwyr stategol. Gydag aelodau o Fyddin Dinasyddion Iwerddon (Clarke, MacDermott, Eamonn Ceannt a James Connolly) unwyd y ddau fudiad i gynllunio fel un corff, ar gyfer gwrthryfel militaraidd a fu'n llwyddiant. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia