Gweriniaeth Pobl Wcráin
Gwladwriaeth a fodolai yn Nwyrain Ewrop o 1917 i 1921 oedd Gweriniaeth Pobl Wcráin (Wcreineg: Украінська Народня Республіка, УНР; Ukrajinśka Narodna Respublika, UNR). Sefydlwyd yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 a chwymp Ymerodraeth Rwsia. Roedd ei ffiniau yn cyfateb yn fras i diriogaeth bresennol Wcráin, y Crimea a gorllewin Kuban yn Rwsia, a rhannau o dde Belarws, dwyrain Gwlad Pwyl, Slofacia, Moldofa, a Rwmania. Ar 7 Tachwedd [20 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1917, cyhoeddwyd y Trydydd Gorchymyn Hollgyffredinol gan Rada Canolog Wcráin, yn sefydlu'r UNR yn nwyrain Wcráin, mewn ffederasiwn â Gweriniaeth Rwsia. Wedi i'r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia yn Chwyldro Hydref 1917, goresgynnwyd Wcráin gan luoedd Rwsia a datganwyd annibyniaeth yr UNR gan y Rada ar 9 Ionawr [22 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1918.[1] Yn Chwefror 1918, arwyddwyd Cytundeb Brest-Litovsk gan yr UNR a fe'i cydnabuwyd yn wladwriaeth annibynnol gan y Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyrrwyd y Bolsieficiaid ymaith gan luoedd yr Almaen ac Awstria-Hwngari, ond nid oedd yr Wcreiniaid yn cyflawni'r danfoniadau bwyd a gytunwyd dan delerau Brest-Litovsk. Yn sgil coup d'état Pavlo Skoropadsky yn Ebrill 1918, datganwyd y Wladwriaeth Wcreinaidd i olynu'r UNR.[1] Adferwyd yr UNR dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth yn Rhagfyr 1918. Ar 22 Ionawr 1919, cyhoeddwyd Deddf Uno i ymgorffori tiriogaeth Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin yn rhan o'r UNR. Daeth yr UNR i ben yn niwedd Tachwedd 1920 yn sgil goresgyniad arall gan y Bolsieficiaid. Ffoes y Gyfarwyddiaeth a Chyngor Gweinidogion y Bobl, a fuont yn goroesi fel llywodraeth alltud nes 1992.[1] Gweler hefydCyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia