Gwen John
Arlunydd o Gymru oedd Gwen John (22 Mehefin 1876 – 18 Medi 1939). Ganed Gwendolen Mary John yn Hwlffordd, Sir Benfro a roedd yn chwaer i'r arlunydd Augustus John (4 Ionawr 1878 - 31 Hydref 1961). MagwraethYn 1884, yn ferch ifanc, symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod. Hi oedd yr ail o bedwar plentyn Edwin William John ac Augusta (née Smith). Brawd hynaf Gwen oedd Thornton John a'i chwaer ieuengaf oedd Winifred.[1] Bu ei mam, a oedd yn mwynhau peintio dyfrlliw, yn wael am flynyddoedd a bu farw pan oedd Gwen yn wyth oed.[2] Yn aml, byddai'r pedwar plentyn yn mynd i'r traeth i ymarfer sgetsio, ond nid oes gwaith wedi goroesi o'r cyfnod cynnar; y gwaith cyntaf yw llun a beintiodd pan oedd yn 19 oed.[3] ColegYn 1896 dilynodd ei brawd iau i Ysgol y Slade, Llundain i astudio celf, ac fel yntau arbenigodd mewn portreadau o bobl. Y Slade oedd yr unig goleg yng ngwledydd Prydain i ganiatau merched.[4] ac i gynilo, rhannodd fflat gyda'i brawd Augustus, gan fwyta ffrwythau a chnau, fel arfer. Ffrainc a phaentioTreuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Ffrainc a rhoddwyd mwy o sylw tan y 2000au i'w brawd Augustus, ond bellach mae wedi ennill ei phlwyf fel un o arlunwyr mwyaf sensitif Cymru. Symudodd i Ffrainc yn 1903 ac ni ddychwelodd i Gymru. I Baris y symudodd i ddechrau, gan fyw ar ei phen ei hun, gan astudio yn Académie Carmen dan James McNeill Whistler ac yna i faestref Meudon. Dychwelodd i Lundain yn 1899, ac arddangosodd ei gwaith am y tro cyntaf yn 1900, yn y New English Art Club (NEAC).]].[5][6] Oherwydd prinder o arian, ychydig iawn o ddeunydd peintio oedd ganddi a bu'n byw fel sgwatwraig rhwng 1900–01.[7] Cafodd berthynas am gyfnod o ddeg mlynedd gyda'r cerflunydd a pheintiwr enwocaf ei ddydd, Auguste Rodin, a bu'n modelu iddo hefyd. Ceir llawer o lythyrau rhwng y ddau sy'n dangos fod Gwen yn berson cryf iawn, a bod gan Gwen deimladau cryf at ferched yn ogystal â dynion. Wedi deg mlynedd, roedd ffordd newydd o feddwl Gwen yn dychryn Rodin a chadwodd hi led braich i ffwrdd, a daeth y berthynas i ben. Cyfarfu Gwen a nifer o beintwyr a meddylwyr mawr y dydd gan gynnwys Matisse, Picasso, Brâncuși, a'r bardd Rainer Maria Rilke, ond ni ddilynodd ffasiwn y dydd, ac felly ni ddaeth yn enwog a gweithiodd fel meudwy am lawer o'r amser. Roedd Gwen yn gymeriad tawel, teimladwy ac roedd ei gwaith yn adlewyrchu hynny: yn gynnil ei phaent, yn llawn teimlad, yn fyfyrgar eu naws, a gellir disgrifio ei genre artistig fel 'mewnoliaeth', gydag un person fel arfer yn y llun, a'r gweddill yn adlewyrchu teimladau a hanes y person hwnnw. Erbyn y 2010au roedd llawer yn rhoi mwy o werth parhaol i'w gwaith nag i waith ei brawd Augustus. Rhai gweithiau
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia