Gwas neidr flewog
Genws o weision neidr ydy Brachytron yn nheulu'r Aeshnidae. Mae'r genws yma'n cynnwys un rhywogaeth o weision neidr, sef y Gwas neidr flewog (Lladin: Brachytron pratense; Saesneg: Hairy dragonfly) ac fel yr awgryma'r enw, mae thoracs y gwas neidr hwn yn eithaf blewog.[3] Gellir ei ganfod yng Nghymru.[4][5] GwahaniaethauCeir stripiau hir, gwyrdd. Ceir hefyd marciau ofal ar ei abdomen: glas ar y gwryw a melyn ar y fenyw. Mae'n llai na rhywogaethau eraill y genws Aethna.[6] CynefinEi diriogaeth yw llynnoedd bychan, camlesi a phyllau o ddŵr glân, heb gemegolion, yn enwedig pan y ceir cyfoeth o lwyni a phlanhigion eraill ar ei glanau. Pan fo gwaith rheoli ffosydd yn digwydd, mae'n cadw draw. Mae'n eitha cyffredin yng ngwledydd Prydain. Mae'n hedfan yn llygad yr haul gan ddychwelyd i'w guddfan pan y cuddia'r haul tan gwmwl. Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia