Gwas neidr Asur
Pryfyn bychan yn nheulu'r deulu'r Aeshnidae' yw gwas neidr asur (ll. gweision neidr asur; Lladin: Aeshna caerulea; Saesneg: Azure Hawker) sy'n perthyn i Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a't nod). Mae'n un o'r gweision neidr lleiaf ac yn hedfan rhwng diwedd Mai ac Awst. Mae'n 62 mm o hyd. Mae gan y gwryw a'r fenyw sbotiau glas o liw asur (Arabeg: al lazuwar drwy'r Ffrangeg: azure) ar eu habdomen a'u thoracs. Marciau hyn yn fwy ar y gwryw na'r fenyw, sy'n fwy brown ei lliw.[2] Yn yr haul y daw allan i hedfan ac fe'i gwelir yn gorwedd yn yr haul ar risgl coeden neu graig yn aml. Mae'n cysgodi rhag y glaw a'r gwynt o dan y grug neu lwynni isel, tebyg. Yr hyn sy'n unigryw i'r gwas neidr asur yw fod y lliw asur yn fwy llachar, yn gryfach lliw pan fo'r haul yn danbaid, ond yn dylu wrth i'r tymheredd ostwng.[3] TiriogaethEwrasia a rhannau deheuol o Begwn y Gogledd yw ei diriogaeth.[1] Yng ngwledydd Prydain fe'i ceir yn yr Alban yn unig.[2] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolennau allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia