Guy Debord
Athronydd Marcsaidd a gwneuthurwr ffilmiau o Ffrainc oedd Guy Debord (28 Rhagfyr 1931 – 30 Tachwedd 1994).[1] Ganed ym Mharis, ac yn ei ieuenctid daeth yn gyfeillgar ag artistiaid a deallusion adain-chwith y ddinas. Cynhyrchodd ei ffilm gyntaf, Hurlements en faveur de Sade, yn 1952. Gweithiodd gyda Isidor Isou a Maurice Lamaitre, aelodau'r cymundod artistig L'Internationale lettriste, i wneud celf arbrofol a elwir "gwrth-gelf" a chanddi ei gwreiddiau ym mudiadau Dada a Swrealaeth. Ysgrifennodd nifer o erthyglau a golygodd sawl rhifyn o gylchgawn L'Internationale Situationniste. Cyhoeddodd ei gampwaith, La société du spectacle, yn 1967. Tynnodd ar syniadaeth yr avant-garde ac astudiaethau pensaernïaeth, y sinema, a chynllunio tref yn ogystal â damcaniaeth Marx yn ei ymdriniaeth o'r "sbectacl" fel amlygiad o ymddieithriad a thrin profiad y ddynolryw yn gynwydd. Cyhoeddodd ddilyniant i'r gwaith hwnnw, Commentaires sur la société du spectacle, yn 1988. Bu farw trwy hunanladdiad yn 62 oed. Gweler hefydCyfeiriadau
Darllen pellach
|
Portal di Ensiklopedia Dunia