Gustave Eiffel
Peiriannydd sifil a phensaer Ffrengig oedd Alexandre-Gustave Eiffel (15 Rhagfyr 1832 – 28 Rhagfyr 1923) sydd yn nodedig am ddylunio Tŵr Eiffel a saif ym Mharis. Ganed yn Dijon, Teyrnas Ffrainc, a derbyniodd ei radd o'r École Centrale des Arts et Manufactures ym 1855. Bu'n arbenigo mewn strwythurau metal, yn enwedig pontydd. Dan ei arweiniad, codwyd pont haearn yn Bordeaux ym 1858, a fe ddyluniodd y Galerie des machines, pafiliwn haearn, dur a gwydr, ar gyfer Arddangosfa Paris ym 1867. Dyluniodd hefyd gromen symudol Arsyllfa Nice a fframwaith Cerflun Rhyddid. Dyluniodd Eiffel y tŵr haearn gyr sy'n dwyn ei enw ar gyfer yr Exposition Universelle, ffair y byd ym Mharis ym 1889. O 1889 i 1930, Tŵr Eiffel oedd y strwythur wneuthuredig uchaf yn y byd. Adeiladodd Eiffel labordy ar gyfer arbrofion erodynameg ar gyrion Paris a gweithiodd yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoes y labordy i lywodraeth Ffrainc ym 1921. Bu farw ym Mharis yn 91 oed.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia