Guglielmo Marconi

Guglielmo Marconi
GanwydGuglielmo Giovanni Maria Marconi Edit this on Wikidata
25 Ebrill 1874 Edit this on Wikidata
Bologna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 1937 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethffisegydd, peiriannydd, gwleidydd, person busnes, dyfeisiwr, gwyddonydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr ym Mrenhiniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol St Andrews Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ffasgaidd Genedlaethol Edit this on Wikidata
TadGiuseppe Marconi Edit this on Wikidata
MamAnnie Jameson Edit this on Wikidata
PriodBeatrice Marconi, Maria Cristina Bezzi-Scali Edit this on Wikidata
PlantDegna Marconi Paresce Edit this on Wikidata
PerthnasauFrancesco Paresce Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Gwobr Ffiseg Nobel, Medal John Fritz, Medal Anrhydedd IEEE, Medal Wilhelm Exner, Medal Matteucci, Neuadd Enwogion New Jersey, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Medal Albert, Medal Franklin, Gwobr "Plus Ultra", Gwobr Edison, Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII, Vallauri Prize, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Grand Officer of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Q104212495, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Order of Merit for Labour, Medal Victoria, Urdd Pïws IX, Urdd Sofran Milwyr Malta, Urdd Filwrol Sant Iago'r Gleddyf, Urdd Tywysog Danilo I, Medal John Scott Edit this on Wikidata
llofnod

Dyfeisiwr a pheiriannydd trydanol o'r Eidal oedd Guglielmo Giovanni Maria Marconi (25 Ebrill 1874 – 20 Gorffennaf 1937), sy'n adnabyddus am greu system radio-telegraffi, sef telegraff diwifr gan ddefnyddio tonnau radio.[1] Felly cafodd Marconi y clod am ddyfeisio radio, a rhannodd Wobr Ffiseg Nobel 1909 gyda Karl Ferdinand Braun "i gydnabod eu cyfraniadau i ddatblygiad telegraffiaeth ddiwifr".

Roedd Marconi hefyd yn ddyn busnes a sefydlodd ym 1897 The Wireless Telegraph & Signal Company, a ddaeth yn ei dro The Marconi Company. Ym 1929, cafodd ei urddo'n Marchese (ardalydd) yr Eidal gan y Brenin Victor Emmanuel III. Ym 1931 sefydlodd Radio Vaticana ar gyfer y Pab Pïws XI.

Bywyd cynnar

Ganed Marconi i deulu bonheddig Eidalaidd yn Bologna ym 1874. Roedd yn ail fab i Giuseppe Marconi, tirfeddiannwr, a'i wraig Wyddelig Annie Jameson. Rhwng dwy a chwech oed, roedd Guglielmo a'i frawd hynaf Alfonso yn byw gyda'u mam yn nhref Bedford yn Lloegr.

Ni fynychodd Marconi unrhyw ysgol ac ni aeth ymlaen i addysg uwch ffurfiol. Yn lle hynny, dysgodd gemeg, mathemateg a ffiseg gartref gan diwtoriaid preifat. Un o'r rhain oedd Vincenzo Rosa, athro ffiseg ysgol uwchradd yn Livorno. Dysgodd Rosa ffiseg i Marconi, 17 oed, yn ogystal â damcaniaethau newydd yn ymwneud â thrydan. Wedyn daeth Marconi i adnabod Augusto Righi, ffisegydd ym Mhrifysgol Bologna a oedd wedi gwneud ymchwil ar ddamcaniaethau newydd Heinrich Hertz am donnau electromagnetig. Caniataodd Righi i Marconi, 18 oed, fynychu darlithoedd yn y brifysgol a hefyd i ddefnyddio ei labordy a'i llyfrgell.

Gwaith arbrofol

Atgynhyrchiad o'r trosglwyddydd radio cyntaf gydag antena monopol, a adeiladwyd gan Marconi yn Awst 1895

Yn 20 oed, dechreuodd Marconi arbrofi ar donnau radio, gan adeiladu llawer o'i offer ei hun yn atig ei gartref, gyda chymorth ei bwtler, Mignani. Roedd gan ffisegwyr ar y pryd ddiddordeb mawr mewn tonnau radio, ond ar y cyfan roedd ganddynt ddiddordeb yn y ffenomen wyddonol, yn hytrach na'u posibliadau fel dull cyfathrebu. Erbyn 1894, felly, roedd Marconi yn gallu dangos ar raddfa fach y gellid defnyddio tonnau radio i anfon signalau côd Morse.

Gwnaeth ddatblygiad arloesol ym 1895 pan lwyddodd Marconi i drosglwyddo negeseuon hyd at 2 filltir o bellter. (Hyd yn hyn roedd hanner milltir wedi'i ystyried fel yr terfyn damcaniaethol.) Daeth i’r casgliad y gellid anfon signalau dros bellteroedd hirach, datblygiad a fyddai’n werthfawr yn fasnachol ac yn filwrol. Fodd bynnag, byddai angen cyllid ychwanegol arno ar gyfer ymchwil a datblygu.

Ac yntau wedi methu â diddori llywodraeth yr Eidal yn ei syniadau, yn 1896 y daeth i Lundain lle enillodd gefnogaeth William Henry Preece, Prif Beiriannydd Swyddfa Bost Gyffredinol ac eraill yn fuan. Derbyniodd Marconi batent Prydeinig rhif 12039 am ei gysyniad ar 2 Gorffennaf 1896. Ym mis Mawrth 1897 anfonodd côd Morse tua 3.7 milltir (6 km) ar draws Gwastadedd Caersallog, ac ar 13 Mai 1897 anfonodd neges tua'r un pellter dros y môr o Ynys Echni ym Môr Hafren i Drwyn Larnog, Bro Morgannwg ac yn fuan wedyn i Drwyn Larnog o Brean Down yng Ngwlad yr Haf – tua 10 milltir (16 km). Cafwyd arddangosiadau dilynol yn La Spezia, yr Eidal, yn Swydd Antrim, Iwerddon, ac ar draws y Môr Udd rhwng Ffrainc a Lloegr.


Canlyniadau ymarferol

Ffotograff o Marconi yn 1901 gyda rhywfaint o'r cyfarpar a ddefnyddiodd yn ei drosglwyddiadau radiotelograffeg dros bellter hir yn ystod y 1890au

Ym 1898 mabwysiadwyd y technoleg newydd gan Trinity House, y sefydliad sy'n gyfrifol am warchod goleudai ar hyd arfordiroedd Lloegr a Chymru,ac ar 17 Mawrth 1899 dangosodd y technoleg hwnnw ei werth ymarferol pan anfonodd Goleulong East Goodwin, wedi angori ym Môr Udd, yr arwydd cyfyngder cyntaf dros heb diwifr a alwodd fad achub o borthladd Ramsgate yng Nghaint.[2]

Yn raddol dechreuwyd defnyddio cyfarpar Marconi ar longau oedd yn hwylio Cefnfor yr Iwerydd i adrodd eu sefyllfa neu anfon adroddiadau newyddion at deithwyr.

Gorsaf radio Poldhu, tua 1910

Ar droad yr 20g dechreuodd Marconi ymchwilio i'r posibilrwydd o anfon signalau ar draws Cefnfor yr Iwerydd y cefnfor i gystadlu â'r ceblau telegraff trawsatlantig. Honnodd fod neges a anfonwyd o St. John's, Newfoundland (sydd bellach yn rhan o Ganada), ar 12 Rhagfyr 1901 wedi'i dderbyn gan ei orsaf radio yn Poldhu, Cernyw – pellter o 2,200 milltir. Ond mae'r honiad hwn bellach yn cael ei ystyried gyda pheth amheuaeth. Boed hynny fel y bo, nid oes dadl bod neges wedi'i hanfon mewn gwirionedd o Nova Scotia, Canada, ar 17 Rhagfyr 1902. Yn raddol goresgynnwyd y rhwystrau technegol, a sefydlwyd gwasanaeth radio-telegraff rheolaidd rhwng Nova Scotia a Swydd Galway, Iwerddon, ar 17 Hydref 1907.

Bywyd personol

Guglielmo a Beatrice Marconi, tua 1910

Priododd Marconi Beatrice O'Brien (1882–1976) ym 1905. Bu iddynt dair merch, Degna (1908-1998), Gioia (1916-1996), a Lucia (ganwyd a bu farw 1906), a mab, Giulio (1910-1971). Ym 1913 dychwelodd y teulu i'r Eidal a dod yn rhan o gymdeithas ffasiynol Rhufain. Ysgarodd Marconi a Beatrice ym 1924, a phriododd Marconi Maria Cristina Bezzi-Scali (1900–1994) ym 1927. Bu iddynt un ferch, Maria Elettra Elena Anna (g. 1930).

Ym 1923 ymunodd Marconi â'r Partito Nazionale Fascista (Y Blaid Ffasgaidd Genedlaethol) a daeth yn aelod o'r Gran Consiglio del Fascismo (Cyngor Ffasgiaeth Mawr).

Cyfeiriadau

  1. "Guglielmo Marconi | Italian physicist". Encyclopædia Britannica.
  2. "East Goodwin Lightship" Archifwyd 2022-07-26 yn y Peiriant Wayback, The Broadcasting Fleet; adalwyd 25 Gorffennaf 2022

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia