Brean Down
Penrhyn yn Ardal Sedgemoor, Gwlad yr Haf, rhwng Weston-super-Mare a Burnham-on-Sea, yw Brean Down.[1] Mae'n ymestyn filltir a hanner i mewn i Fôr Hafren ac yn sefyll 100 medr / 320 troedfedd uwchben y môr ar ei frig. Mae ef wedi'i wneuthur o galchfaen carbonifferaidd. Yn ddaearegol, mae'n rhan o'r Bryniau Mendip sy'n rhedeg ar draws gogledd canol Gwlad yr Haf, fel y mae ynysoedd y Môr Hafren, Steep Holm ac Ynys Echni. Mae'n gartref i nifer o blanhigion prin gan gynnwys rhosynnau y garreg gwynion (Helianthemum apenninum), y gorfrwynen (Carex humilis), y peneuraid (Ranunculus auricomus) a brigwellt Gwlad yr Haf (Koeleria vallesiana). Trigolion eraill y penrhyn yw cwningod, draenogod, llygod y maes, llygod y gwair a chwistlod. Mae adar yn cynnwys ehedyddion, corhedyddion y waun, llinosod a thitẅod tomos gleision. Adeiladwyd caer ar derfyn y penrhyn rhwng 1862 a 1870 (Palmerston Fort) i wrthsefyll grym llynges Ffrainc. Roedd yn rhan o gyfres o geyrydd o gwmpas y Môr Hafren gyda cheyrydd eraill ar Benrhyn Larnog, Ynys Echni a Steep Holm. Ym 1900, lladdwyd milwr yn y caer gan ffrwydrad enfawr. Perodd y ffrwydrad ddifrod sylweddol i'r caer, a bu rhaid i'r fyddin gefnu ar y safle yn fuan wedyn. Cafodd ei ailarfogi am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ei berchennog heddiw yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe'i gwarchodir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia