Guerrillero Heroico
![]() ![]() Ffotograff eiconig o'r chwyldroadwr Marcsaidd Che Guevara yn gwisgo beret du yw Guerrillero Heroico (Sbaeneg am "'Herwfilwr Arwrol") a dynnwyd gan Alberto Korda. Fe'i dynnwyd ar 5 Mawrth 1960 yn Hafana, Ciwba, mewn gwasanaeth coffa am y rhai fu farw yn ffrwydrad La Coubre ac o ganlyniad i'w boblogrwydd bu'r arweinydd carismataidd a dadleuol yn eicon diwylliannol erbyn diwedd y 1960au.[1] Dywedodd Korda y cafodd ei dynnu at wyneb Guevara ar y foment y dynnwyd y llun gan yr "anghymodlondeb llwyr"[2] yn ogystal â'r dicter a phoen a welodd.[3] Blynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Korda bod y ffotograff yn dangos cymeriad diysgog a stoic Che.[4] Roedd Guevara yn 31 mlwydd oed pan dynnwyd y ffotograff. Gan bwysleisio natur hollbresennol ac apêl eang y ddelwedd, enwodd Maryland Institute College of Art y llun yn symbol o'r 20g a ffotograff enwocaf y byd.[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia