Che Guevara
Chwyldroadwr o'r Ariannin oedd Ernesto Guevara (14 Mai 1928 – 9 Hydref 1967) a chwareuodd ran allweddol yn chwyldro Ciwba. Ei fywyd cynnarMeddyg oedd Che o ran ei broffesiwn. Yn ddyn ifanc rhoddodd ei waith ei fyny a theithiodd yr holl ffordd trwy dde a chanolbarth America ar fotorbeic. Roedd y daith honno i newid ei fywyd. Bu'n llygad-dyst i dlodi ac anghyfiawnder ar raddfa eang a phenderfynodd fod rhaid newid hynny. Ym Mecsico syrthiodd i mewn gyda chriw o Giwbanwyr alltud a ddyheai weld chwyldro yn Ciwba. Un ohonynt oedd Fidel Castro. Y chwyldroadwrRoedd Che yn aelod o Fudiad 26ain o Orffennaf dan arweiniad Fidel Castro a gipiodd awdurdod yn Ciwba yn 1959 ar ôl disodlu llywodraeth Batista. Gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y llywodraeth newydd, ond canolbwyntiodd ar ddiywgio byd amaeth. Gadawodd Ciwba yn 1966 i geisio tanio chwyldro mewn gwledydd eraill gan gynnwys y Congo a Bolifia. Fe'i dienyddiwyd gan fyddin Bolifia yn Hydref 1967. Ei ddylanwadCafodd esiampl Che ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth radicalaidd y 1960au. Tyfodd ei lun, yn benodol y ffotograff Guerrillero Heroico, i fod yn un o eiconau mwyaf amlwg y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Mae Dafydd Iwan wedi canu cân i Che Guevara. Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia