Grid Trydan Cenedlaethol (gwledydd Prydain)![]() Rhwydwaith dargludo trydan foltedd uchel yw'r Grid Trydan Cenedlaethol. Mae'n cysylltu gorsafoedd ynni ac is-orsafoedd trydan i'r defnyddiwr yn yr Alban, Cymru a Lloegr. Ceir cysylltiadau o dan y môr i ogledd Iwerddon (HVDC Moyle), Gweriniaeth Iwerddon (EirGrid), Ynys Manaw (Isle of Man to England Interconnector) a Ffrainc (HVDC Cross-Channel). Pan ddad-genedlaetholwyd y Bwrdd Trydan Canolog yn 1990, trosglwyddwyd ei perchnogaeth y Grid Cenedlaethol i'r National Grid Company plc, a newididodd ei enw'n ddiweddarach i National Grid Transco, ac wedyn i National Grid plc. Holltwyd y grid yn ddau yn yr Alban: un i dde a chanol yr Alban (SP Energy Networks, un o isgwmniau Scottish Power) a'r llall i ogledd yr Alban (SSE plc); o ran gweinyddu a goruchwylio, mae'r National Grid plc yn gyfrifol am yr Alban a gweddill gwledydd Prydain. RheolaethMae rhan Cymru a Lloegr o'r grid yn cael ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Grid Cenedlaethol yn 'St Catherine's Lodge', Sindlesham, Wokingham yn Berkshire.[2][3] Symudiad y trydanMae'r diagram isod yn dangos rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n debyg i'r grid cenedlaethol.
Mae'r folteddau yn amrywio o wlad i wlad; yng ngwledydd Prydain mae oddeutu 240v. CymruYng Nghymru mae'r grid dosbarthu trydan wedi cyrraedd ei uchafswm mewn rhai mannau o gefn gwlad, gyda nifer o gwmniau creu trydan yn cael eu gwrthod. Yn ôl Chris Blake, Cyfarwyddwr Cymoedd Gwyrdd, "Mae rhannau maith o ganolbarth a gorllewin Cymru a llefydd fel Dyfnaint a Chernyw a Gwlad yr Haf i bob pwrpas ar gau i adfywiad ynni adnewyddol am fod y grid yn llawn".[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia