Gorseinon
Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Gorseinon.[1] Fe'i lleoli ger aber Afon Llwchwr, tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Mae Gorseinon hefyd yn gymuned llywodraeth leol gyda chyngor etholedig yn y dref. Pentref bychan ydoedd tan diwedd y 19g pan dyfodd yn sgîl y diwydiannau glo a thunplat. Mae Caerdydd 63.9 km i ffwrdd o Orseinon ac mae Llundain yn 273.5 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 7.2 km i ffwrdd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[3] Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd gan ardal cyngor tref Gorseinon boblogaeth o 7,814. Fodd bynnag, diffinia Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol y DU ardal a elwir Ardal Drefol Gorseinon sy'n cynnwys yr ardaloedd mwy poblog yn ac o amgylch Gorseinon. Mae'r ardal hon yn cynnwys Gorseinon, Casllwchwr, Pentre'r Ardd a Penlle'r-gaer ac roedd iddi boblogaeth o 19,273. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7] Pobl enwog o Orseinon
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Dinas |
Portal di Ensiklopedia Dunia