Keith Allen
Mae Keith Philip George Allen (ganed 2 Medi 1953) yn actor, digrifwr, canwr-cyfansoddwr ac awdur Seisnig a aned yng Nghymru. Ef hefyd yw tad y gantores Lily Allen ac mae ef wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu, ffilmiau a cherddoriaeth. Ei yrfa actioYmddangosodd Allen mewn nifer o ffilmiau a wnaed gan The Comic Strip Presents... (yn fwyaf amlwg "The Bullshitters", a oedd yn barodi o The Professionals) ar Sianel 4 ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddo ddod yn enwog am ei act yn y Comedy Store ym 1979. Yn frawd i'r digrifwr a'r cyfarwyddwr ffilm Kevin Allen, mae Keith Allen wedi chwarae rhannau difrifol a chomedi, gan chwarae rhan Brian Dennehy unwaith. Ymddangosodd yn y ffilm gomedi dywyll, Twin Town, addasiad Sianel 4 o A Very British Coup a chwaraeodd ran y tenant sy'n marw ar ddechrau ffilm Danny Boyle, Shallow Grave (1994). Yn yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad y BBC o Martin Chuzzlewit. Cafodd ran hefyd yn un o ffilmiau eraill Danny Boyle, yn chwarae rhan deliwr cyffuriau yn y ffilm Trainspotting (1996). Teledu
Ffilmiau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia