Frances Elizabeth Morgan
Y Gymraes gyntaf a'r ail ferch drwy Ewrop i dderbyn gradd mewn meddygaeth oedd Frances Elizabeth Morgan (yna Frances Elizabeth Hoggan; 20 Rhagfyr 1843 – 5 Chwefror 1927). Pryderai'n fawr am addysg i ferched, roedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i wella addysg i ferched yng Nghymru a sgwennodd bapur hynod o ddylanwadol o'r enw Education for Girls in Wales. Roedd Francis yn destun rhaglen gan Ffion Hague a ddarlledwyd ar S4C yng ngaeaf 2016.[1] Hi a'i gŵr oedd y gŵr a gwraig cyntaf i redeg practis meddygol yng ngwledydd Prydain. Yn ei lyfr “Education and Female Emancipation in Wales”, disgrifiodd Dr Gareth Evans hi fel “… undoubtedly one of the leading feminist pioneers in Wales”.[2] Magwraeth ac addysgFe'i ganed yn Aberhonddu ar 20 Rhagfyr, 1843 ble roedd ei thad Richard Morgan yn gurad ym Mhriordy Sant Ioan, cyn i'r teulu symud i'r Bont-faen ble derbyniodd Frances ei haddysg. Roedd ei mam, Georgina, o bosib yn perthyn i un o deuluoedd hynaf Aberhonddu. Pan oedd yn deirblwydd oed symudodd y teulu i Forgannwg. Yn ei harddegau, cafodd blentyn, a magwyd y plentyn fel 'chwaer' iddi.[3] Gweithiodd gyda thiwtoriaid preifat cyn sefyll arholiad mynediad i Brifysgol Zurich – lle enillodd le. Zurich oedd yr unig Brifysgol a fyddai’n derbyn merched i astudio meddygaeth yn 1867. Gwnaeth Frances enw i’w hun yno hefyd gan gwblhau’r radd chwe mlynedd mewn tair yn unig (a dysgu Sansgrit i’w hunan yn ei hamser sbâr!) Derbyniodd addysg bellach yn Windsor ac yna ym Mharis, Düsseldorf; yn 1870 derbyniodd ei chymwyster meddygol, ar ôl iddi gwbwlhau'r cwrs chwe-mlynedd mewn tair. Yn 1874 priododd feddyg arall, George Hoggan, a bu'r ddau'n cadw meddygfa yn Llundain lle arbenigai mewn afiechydon plant a benywod: rhywbeth prin iawn yr adeg honno. Dyma'r practis cyntaf i'w redeg gan ŵr a gwraig drwy wledydd Prydain. Darlithiai ar yr un pryd yn y North London Collegiate School. TeithioOherwydd ei chred dros newidiadau cymdeithasol, roedd yn rhydd ac yn llafar ei barn. Teithiodd drwy'r Unol Daleithiau America yn darlithio gan geisio tynnu sylw at hiliaeth y wlad; roedd yn siaradwr gwadd yn Universal Race Congress yn Llundain yn 1911, lle cyflwynodd bapur o'r enw “American Negro Women During the First Fifty Years of Freedom” (cyhoeddwyd yn 1913). Treuliodd ei blynyddoedd olaf yn Brighton, ble y bu farw mewn cartref ar 5 Chwefror 1927. Claddwyd hi yn Woking, Surrey ar 9 Chwefror, gyda'i gŵr.[4] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia