Fflemeg

Iaith frodorol Fflandrys yw'r Fflemeg, tafodiaith o'r Iseldireg i rai, ond iaith ar wahân i lawer. Debyg iawn ydyw i Iseldireg (Nederlands). Mae hi'n rhan o'r teuluoedd ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r teulu ieithyddol Germanaidd fel Saesneg ac Almaeneg fodern.

Mae Gogledd-ddwyrain Ffrainc (o gwmpas Dunkerque) tua'r ffin a Gwlad Belg hefyd yn rhan o Fflandrys ac o fan'ma y daeth y Ffleminiaid enwog o Dde Sir Benfro yn amser y Normaniaid.

Roedd Fflemeg dan oruchafiaeth y Ffrangeg yn y ddwy wlad am ganrifoedd. Ers y 1950au mae mudiad i ailsefydlu'r iaith wedi llwyddo i'r fath raddau bod arwyddion uniaith Fflemeg erbyn hyn yn Vlanderen, a rhai dwyieithog ym Mrwsel ac mae hi'n iaith swyddogol drwy Wlad Belg i gyd.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia