Fertigo
Mae fertigo yn gyflwr meddygol ble mae'r person yn teimlo fel pataen nhw neu'r gwrthrychau o'u cwmpas yn symud pan nad ydynt.[1] Mae'n aml yn teimlo fel symudiad o droelli neu siglo. Gall hyn fod yn gysylltiedig â chyfog, chwydu, chwysu, neu anhawster cerdded. Fel arfer, mae'n gwethygu wrth symud y pen. Pendro yw'r math mwyaf cyffredin o bendro. Y clefydau mwyaf cyffredin sy'n achosi fertigo yw fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed, clefyd Ménière, a labyrinthitis. Mae achosion llai cyffredin yn cynnwys strôc, tiwmorau yr ymenydd, anaf i'r ymenydd, sclerosis ymledol, meigrynau, trawma, a phwysedd afreolaidd rhwng y clustiau canol.[2][3] Gall fertigo ffisiolegol ddigwydd ar ôl bod yn agored i symudiad am gyfnod hir megis ar long neu droelli gyda'r llygaid ar gau.[4][5] Gall achosion eraill gynnwys dod i gysylltiad â thocsinau megis carbon monocsid, alcohol, neu aspirin.[6] Mae fertigo yn broblem mewn rhan o'r system gynteddol. Mae achosion eraill o bendro yn cynnwys presyncope, diffyg cydbwysedd, a phendro amhenodol.[7] Mae fertigo lleoliadol paroxysmaidd diniwed yn fwy tebygol yn rhywun sy'n cael achosion cyson o fertigo gyda symudiad ac sydd fel arall yn normal rhwng yr achosion hyn. Dylai'r achosion o fertigo barhau am llai nag un munud. Mae'r prawf Dix-Hallpike fel arfer yn achosi cyfnod o symudiad cyflym yn y llygad sy'n cael ei alw'n nystagmus yn y cyflwr hwn. Mewn clefyd Ménière's disease ceir tinitws yn aml, nam ar y clyw, a gall y pyliau o fertigo barhau am dros ugain munud. Gyda labyrinthitis daw'r fertigo yn sydyn ac mae'r nystagmus yn digwydd heb symudiad. Yn y cyflwr hwn gall fertigo barhau am ddyddiau. Dylid ystyried achosion mwy dwys hefyd.[8] Mae hyn yn arbennig o wir os ceir problemau eraill fel gwendid, cur pen, golwg dwbl, neu ddiffrwythdra. Mae pendro yn effeithio ar tua 20–40% o bobl ar rhyw adeg neu'i gilydd, tra bod tua 7.5–10% yn cael fertigo.[9] Mae tua 5% yn cael fertigo o fewn blwyddyn. Mae'n dod yn fwy cyffredin gydag oedran ac yn effeithio ar fenywod ddwy i dair gwaith yn fwy aml na dynion. Mae fertigo yn gyfrifol am tua 2–3% o ymweliadau i'r uned frys yn y byd datblygedig.[10] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia