Ethelred yr Amharod
Brenin Eingl-Sacsonaidd Lloegr (978-1013 a 1014-1016) oedd Ethelred II (tua 968 – 23 Ebrill 1016), a adnabyddir hefyd fel Æthelred II, Aethelred II ac Ethelred yr Amharod (Hen Saesneg: Æþelræd a'r llysenw poblogaidd Unræd, yn llythrennol "drwg ei gynghor" ond a ddëellir yn gyffredinol fel "amharod"). Roedd yn fab i'r brenin Edgar a'i frenhines Ælfthryth. Nodwyd y rhan healeth o'i deyrnasiad (991–1016) gan ryfela amddiffynnol yn erbyn y Daniaid a geisiai oresgyn teyrnas Lloegr. Cafodd ei olynu gan Edmwnd Ystlyshaearn. Yng Nghymru yr adeg yma trigai brenin tra gwahanol, Elystan Glodrydd, gyda'i gyfenw, mewn cyferbyniad i Ethelred 'Drwg ei Gyngor', yn ŵr cldfawr, uchel ei barch a ddyblodd maint ei diroedd gan greu ardal iddo'i hun rhwng y ddwy afon, Rhwng Gwy a Hafren (a elwid yn Fferleg ers talwm, Maesyfed heddiw) yng nghanolbarth Cymru.[1] Ethelred a orchmynodd y gyflafan ar drigolion Danaidd Lloegr yn 1002 a adnabyddir fel Cyflafan Gŵyl Sant Bricius.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia