Eingion y glust
Mae eingion y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp eingion yn y glust ganol sy'n cysylltu â morthwyl y glust ar un ochr a gwarthol y glust efo'r llall. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r morthwyl ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol. Weithiau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n incws o'r Lladin am eingion incus[1]. StrwythurYr eingion yw'r ail o'r esgyrnynnau, tri asgwrn yn y glust ganol sy'n gweithredu i drosglwyddo sain. Mae ganddi aelod hir ac aelod byr sy'n ymwthio o'i bwynt cymalu â'r morthwyl. ![]() SwyddogaethMae'r eingion yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r drwm y glust i'r glust fewnol. Mae wedi ei gysylltu yn fras a'r morthwyl. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r morthwyl yn ochrol ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol yn ganolog. HanesMae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad eingion y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[2]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[3] yr eingion mewn ychydig mwy o fanylder ond roedd ef yn disgrifio'r asgwrn fel ail forthwyl. Andreas Vesalius, yn ei lyfr De Humani Corporis Fabrica, oedd y cyntaf i gymharu siâp yr asgwrn i eingion, gan rhoi ei enw cyfredol iddi.[4] Ym 1615 honnodd Pieter Paaw bod aelod hir yr eingion yn asgwrn ar wahân ac yn bedwerydd esgyrnyn[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia