Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Caerdydd
Eglwys Anglicanaidd ac adeilad rhestredig Gradd I yng nghanol dinas Caerdydd yw Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr. Sefydlwyd Eglwys Sant Ioan yn wreiddiol fel capel anwes i Eglwys y Santes Fair, prif addoldy'r dref ganoloesol, ond dadfeiliodd yr eglwys fwy ar ôl llifogydd ym 1607 ac fe'i dymchwelwyd ym 1678.[1] Dinistriwyd eglwys wreiddiol Sant Ioan yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr ym 1404, a dim ond dau fwa o'r 13g ar ochr ddeheuol y gangell sy'n goroesi o cyn y pryd hynny.[1] Ailadeiladwyd yr eglwys yn ail hanner y 15g yn yr arddull Gothig hwyr a elwir yn "Berpendiciwlar", ac y mae'r tŵr ac arcêd corff yr eglwys yn dyddio o'r cyrch yma. Mae sawl awdur wedi dwyn sylw at debygrwydd y tŵr i rai eglwysi yng Ngwlad yr Haf, yn enwedig Bryste, a daeth y garreg llwydfelyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y manylion pensaernïol o Dundry yn yr un sir.[2] Yn yr 17g gosodwyd beddrod yn arddull y Dadeni i ddau frawd o deulu'r Herbertiaid, Syr William (a fu farw ym 1609) a Syr John (a fu farw ym 1617), yng nghapel côr y teulu.[3] Gyda thwf Caerdydd yn y 19g hwyr ymhelaethwyd yr eglwys yn sylweddol o'i chraidd canoloesol, ac mae'r rhan fwyaf o'r muriau allanol presennol (ag eithrio'r tŵr) yn waith Fictoraidd. Yng ngwrthgefn (reredos) y brif allor y mae cerfluniau gan William Goscombe John, gweithiau cynnar pwysig gan y brodor hwn o Gaerdydd. Uwchben hynny, yn y ffenestr orllewinol, ceir gwydr lliw gan y dodrefnwr eglwysi blaenllaw Ninian Comper. Ceir hefyd ffenestri lliw gan yr arlunwyr Fictoraidd nodedig William Morris, Ford Madox Brown ac Edward Burne-Jones, i gyd yn dyddio o 1869.[2] Penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I ym 1952.[4] Oriel
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia