Dylan Ail Don

Dylan ail Don
Duw'r moroedd, tonnau, a dŵr[1]
Enwau eraillMab y Ton[1]
Prif le cwltCymru
PreswylfaY môr
AnifeiliaidBywyd morol
RhywGwryw
Achyddiaeth
Dyddiad marw'r ymgnawdoliaLladdwyd ar ddamwain gan ei ewythr, Gofannon
RhieniArianrhod (mam) a Math fab Mathonwy (tad) (y diwethaf drwy brocsi drwy ddulliau hudol)
SiblingiaidLleu Llaw Gyffes (brawd)
Maen Dylan ym machlud yr haul

Yn y Bedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, sef Math fab Mathonwy, Dylan ail Don (Cymraeg Canol: Dylan eil Ton) yw brawd Lleu Llaw Gyffes a mab Arianrhod.

Mabinogi

Yn ôl chwedl Math fab Mathonwy, cyn gynted ag y bedyddiwyd ef,

"Fe gyrchodd y môr ac fe gafodd natur y môr. Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don."

Un o ystyron y gair 'ail' (neu 'eil' yn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol) yw 'mab' neu 'etifedd' (gall hefyd olygu 'llwyth' neu 'genedl'). Ond y mae'n bosibl mai ymgais gan awdur y Pedair Cainc i esbonio'r enw hwn yw'r stori am ei eni o'r môr, ac mae rhai ysgolheigion yn dadlau fod Dylan yn dduw Celtaidd ac yn fab i'r dduwies Geltaidd adnabyddus Dôn (fel Gwydion ei hun). Fe gafodd Dylan ei ladd ar ddamwain gan ei ewythr, Gofannon.

Cyfeiriadau eraill

Ceir sawl cerdd yn Llyfr Taliesin a dadogir ar Taliesin Ben Beirdd sy'n cyfeirio at Dylan, ac yn y llawysgrif honno ceir marwnad iddo yn ogystal. Un o'i enwau amgen yn nhestunau Llyfr Taliesin yw 'Dylan Ail Môr'.

Maen Dylan

Maen Dylan

Yn Englynion y Beddau (Llyfr Du Caerfyrddin), dywedir fod bedd Dylan yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd:

yn yd vna ton tolo
Bet Dilan Llan Bevno.[2]

Ble crëir y don sŵn diserch
Mae bedd Dylan yn Llan Beuno.[3]

Ceir Trwyn Maen Dylan ger Aberdesach yng nghymuned Clynnog. Yn y môr gerllaw ceir Maen Dylan, sef carreg anferth wrth droed y Trwyn.

Llyfryddiaeth

  • d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). ''The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages''. Avalonia.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn English). Avalonia. t. 127.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "Englynion y Beddau". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-12-30.
  3. "The Stanzas of the Graves". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-12-30.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia