Dôn

Dôn
Mam Hynafol Llys Dôn[1]
Prif le cwltCymru
RhywBenyw
Achyddiaeth
RhieniMathonwy
SiblingiaidMath fab Mathonwy a Goewin
ConsortBeli Mawr[1]
EpilPenarddun, Arianrhod, Amaethon, Gofannon, Gwydion, Gilfaethwy, a Nudd,
Cywerthyddion
GwyddeligDanu

Cymeriad a duwies hynafiad yn llenyddiaeth a chwedlau Cymreig yw Dôn. Mewn sawl ffynhonnell, hi yw mam llwyth o blant a elwir yn "Blant Dôn", gan gynnwys Gwydion, Arianrhod, Gilfaethwy, ac eraill. Er hynny, roedd hynafiaethwyr y cyfnod modern cynnar yn tybio bod Dôn yn gymeriad gwrywaidd yn hytrach nag un benywaidd.[2] Mae hi hefyd yn chwaer i Fath fab Mathonwy yn y traddodiad Cymreig. Ceir cyfeiriadau anuniongyrchol ati ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi ac weithiau yng ngwaith y beirdd Cymraeg canoloesol. Cyfeirir ati weithiau fel merch Beli, a restrir yn yr achau fel un o gyndeidiau pwysicaf Gwŷr y Gogledd.

Llys Dôn

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Mathonwy
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Dôn
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Math fab Mathonwy
 
Goewin
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gwydion
 
 
 
Gilfaethwy
 
 
 
 
Arianrhod
 
 
 
Gofannon
 
 
 
Amaethon
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Dylan ail Don
 
 
 
 
 
 
 
Lleu Llaw Gyffes
 
Blodeuwedd
 

Ymhellach, ceir rhestr estynedig o blant ym Monedd yr Arwyr, gan gynnwys Aidden, Cynan, Digant, Elawg, Elestron, Eunydd, Hedd, Hunawg, ac Idwal.[3]

Llenyddiaeth arall

Yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen, enwir Dôn yn fam i Amaethon yn ogystal.

Mewn seryddiaeth

Enw Cymraeg traddodiadol y cytser Cassiopeia yw Llys Dôn. Mae gan ddau o blant Dôn hefyd gysylltiadau seryddol, sef Gwydion fab Dôn ac Arianrhod, lle mai Caer Gwydion yw'r enw Cymraeg traddodiadol ar y Llwybr Llaethog, a Chaer Arianrhod yw cytser y Corona Borealis.[4]

Geirdarddiad a tharddiad Proto-Indo-Ewropeaidd

Yn ôl un ddamcaniaeth, ieithyddol, uniaethir Dôn â'r dduwies Geltaidd Danu/Anu yn y traddodiad Gwyddelig. Yna mae hi'n fam i'r Tuatha Dé Danann chwedlonol. Mae rhai ysgolheigion yn dadlau hefyd dros gysylltu Dôn/Danu ag enw afon Donaw (Danube, Lladin: Danuvius). Mae'n bosibl yn ogystal fod yr afonydd niferus a enwir yn afon Don, o Rwsia i Brydain, i'w cysylltu â'r dduwies hefyd. Tybir fod afon Dyfrdwy yn enghraifft arall (un o'r hen ffurfiau ar yr enw yw Dyfrddonwy).

Yn ôl damcaniaeth arall, mae gan Dôn wreiddiau etymolegol gwbl wahanol i'r Danu Gwyddelig; tra bod y cyntaf efallai yn dduwies ddŵr (cymharer Afon Donaw a Danu yn y Veda), mae Dôn yn fwy tebygol o ddod o "ghdhonos," sy'n golygu "y ddaear." Yn yr ystyr hwn, gellir ei gweld fel y fersiwn Gymraeg o "Dheghom" ("*Dʰéǵʰōm") o fytholeg Proto-Indo-Ewropeaidd, y Dduwies Ddaear gyntefig y mae pob duw arall yn tarddu ohoni. Awgrymwyd, o ganlyniad, y byddai Plant Dôn yn gytras â'r Titaniaid Groegaidd.[5]

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
  • W.J. Gruffydd, Math fab Mathonwy (Caerdydd, 1928)
  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Stuttgart 1994: cyfieithiad Saesneg, Boydell Press, 1997)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn English). Avalonia. t. 125.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Bartrum, Peter (1993). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (PDF). Cardiff: The National Library of Wales. tt. 230–231. ISBN 978-0907158738. Cyrchwyd 2016-11-26.
  3. d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn English). Avalonia. t. 126.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Squire, Charles (2003). Celtic Myths and Legends. United Kingdom: Parragon. tt. 252–253. ISBN 9781842040157.
  5. Koch, John T. (1989). "Some Suggestions and Etymologies Reflecting upon the Mythology of the Four Branches". Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 9: 1-10.
Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg Geltaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia