Dosbarth Abertawe (etholaeth seneddol)
Roedd Dosbarth Abertawe yn etholaeth fwrdeistref a oedd yn ethol un Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin, Senedd y Deyrnas Unedig. HanesCafodd yr etholaeth ei greu ym 1832 i gynrychioli bwrdeistrefi Abertawe, Castell-nedd, Aberafan, Cynffig a Chasllwchwr. Bu rai mân newidiadau i'r ffiniau ym 1868, ond bu i gyfansoddiad yr etholaeth, o ran bwrdeistrefi, aros yr un fath hyd 1885. Cafodd yr etholaeth ei rannu'n ddau gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad cyffredinol 1885. Ffurfiwyd etholaeth newydd Tref Abertawe i gynrychioli canol y dref; gan adael Dosbarth Abertawe fel etholaeth ar gyfer ochr Treforys o'r dref â'r pedwar bwrdeistref lai. Roedd Dosbarth Abertawe yn etholaeth Ryddfrydol gryf ac yn ardal hynod o ddiwydiannol a oedd yn cynnwys gweithfeydd tunplat a dur a nifer o byllau glo. Cafodd yr etholaeth ei diddymu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918. Aelodau Seneddol
Etholiadau![]() Etholwyd John Henry Vivian, Rhyddfrydwr, yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832, 1835, 1837, 1841, 1847 ac 1852. Bu farw Vivian ym 1855 a chafodd ei olynu gan Lewis Llewelyn Dillwyn yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd Dillwyn ei ethol yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiadau 1857, 1859, 1865, ac 1868. Cafwyd etholiad cystadleuol ym 1874: ![]()
Cafodd Dillwyn ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1880. Safodd fel ymgeisydd i etholaeth newydd Tref Abertawe yn etholiad 1885 a chafodd Henry Hussey Vivian ei ethol i gynrychioli Dosbarth Abertawe yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol, gan gadw ei sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad 1886. Cafwyd etholiad cystadleuol ym 1892:
Cafodd Syr Henry Vivian ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Cyntaf Abertawe ym 1893, fe'i olynwyd fel Aelod Seneddol gan William Williams yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Arhosodd Williams yn AS yr etholaeth hyd yr etholiad cyffredinol canlynol a gystadlwyd ym 1895.
Cafodd David Brynmor Jones ei ail-ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1900 a 1906:
Cafodd Syr David Brynmor Jones ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad Mis Ragfyr 1910. Fe ymddiswyddodd o'r senedd ar gael ei benodi'n Gomisiynydd Gwallgofrwydd ym 1915 ac fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan Thomas Jeremiah Williams, Rhyddfrydwr.[1] Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia