Dominique Strauss-Kahn
Economegydd, cyfreithiwr a gwleidydd o Ffrainc ydy Dominique Gaston André Strauss-Kahn (ganed 25 Ebrill 1949), a gyfeirir ato'n aml yn y cyfryngau fel DSK,[2][3]. Mae'n aelod o Blaid Sosialaidd Ffrainc. Penodwyd Strauss-Kahn yn Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar 28 Medi 2007, gyda chefnogaeth arlywydd ei wlad Nicolas Sarkozy, a gweithiodd yn y swydd tan ei ymddiswyddiad ar 18 Mai 2011.[4] Mae'n athro economeg llawn yn y Athrofa Paris ar gyfer Astudiaethau Gwleidyddol. Strauss-Kahn oedd Gweinidog yr Economi a Chyllid o 1997 tan 1999 fel rhan o lywodraeth Lionel Jospin. Mae'n perthyn i adain dde y Blaid Sosialaidd yn Ffrainc (sydd ar ochr canol-chwith gwleidyddiaeth Ffrainc). Ym mis Mai 2011, arestiwyd Strauss-Kahn yn Ninas Efrog Newydd ac fe'i gyhuddwyd o ymosodiad rhywiol, caethiwed gorfodol ac ymgais i dreisio morwyn a aeth i mewn i'w ystafell yn ei westy. Gwrthodwyd mechnïaeth iddo ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa, tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 20 Mai.[5] Hyd yn hyn nid yw Strauss-Kahn wedi cyflwyno ei ble yn ystod yr achos, ond mae'n gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.[6] Ar 23 Awst gwrthodwyd yr holl gyhuddiadau. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia