Domenico Ghirlandaio
Arlunydd o'r Eidal yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Domenico Ghirlandaio (1449 – 11 Ionawr 1494) sydd yn nodedig am ei ffresgoau traethiadol manwl, sydd yn cynnwys nifer o bortreadau o ddinasyddion blaenllaw Gweriniaeth Fflorens a golygfeydd Beiblaidd. Ganed Domenico di Tommaso Bigordi yn Fflorens yn fab i eurych. Tarddai ei lysenw, "Ghirlandaio", o waith ei dad o wneud garlantau ar gyfer gwallt menywod y ddinas. Nid oes tystiolaeth o'i addysg ac hyfforddiant yn y celfyddydau, neu ddechrau ei yrfa, ond mae Giorgio Vasari yn honni yr oedd yn ddisgybl i Alesso Baldovinetti. Dyddia'r gweithiau cynharaf a briodolir iddo o'r 1470au. Paentiodd yn bennaf furluniau a ffresgoau ar wynebau mawr, a cheir hefyd ambell allorlun ganddo ar baneli pren. Ni arbrofodd erioed gyda chyfrwng paent olew.[1] Paentiodd sawl ffresgo ym 1481–82, gan gynnwys Galwedigaeth Seintiau Pedr ac Andreas yn Cappella Sistina, Dinas y Fatican. Ei gampwaith, mae'n debyg, yw'r cylch ffresgo (1485–90) yng nghôr Santa Maria Novella yn Fflorens, a gomisiynwyd gan deulu'r Medici, o olygfeydd o fucheddau'r Forwyn Fair ac Ioan Fedyddiwr. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia